Skip page header and navigation

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TAR) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Ôl-raddedig)

Abertawe
1 flwyddyn Llawn Amser

Mae’r rhaglen AHO yn gyfle i ennill cymhwyster gwerthfawr iawn a fydd yn caniatáu graddedigion i addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau addysg ôl-orfodol.

Gallwch ddewis astudio yn llawn-amser neu’n rhan-amser, ac mae ystod o ddewisiadau mynediad addas i’r rhai sydd wedi graddio yn ddiweddar, y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth, yn ogystal â’r rhai sy’n dychwelyd at eu hastudiaethau ar ôl saib.

Gydag elfennau sy’n canolbwyntio ar arfer gorau o ran cefnogi a datblygu dysgu sy’n cael eu haddysgu ar gampws y Brifysgol, ynghyd â phrofiad ymarferol o addysgu, byddwch yn dysgu sut i wneud defnydd ymarferol o ddamcaniaethau ac i ddatblygu eich sgiliau fel darpar weithiwr addysg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cynigia’r cwrs hwn i’r rhai sydd â gradd mewn pwnc nad yw wedi’i ddysgu’n eang ar gyrsiau TAR megis seicoleg, y gyfraith, y cyfryngau, nyrsio gyfle i sicrhau cymhwyster addysgu proffesiynol sydd ei angen i addysgu eu harbenigedd pwnc.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynigia’r cwrs hwn gyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu yn rhan o’r rhaglen, sef sgil allweddol ar gyfer y sector ôl-orfodol yng Nghymru heddiw.

Mae astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol yn fuddsoddiad yn eich gyrfa. Rydyn ni’n anelu at roi’r dulliau i chi allu trawsnewid eich bywyd a rhoi i chi addysg sy’n eich gwneud chi’n hyderus a chymwys i gofleidio eich dewis lwybr gyrfa.

Pecyn Cymorth Addysgu 1

(20 credydau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

(10 credydau)

Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr

(10 credydau)

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Pecyn Cymorth Addysgu 2

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a'r Ymarferydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Gweithredu

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.

    Rydym yn cynnig nifer o opsiynau o ran llwybrau, yn ddibynnol ar eich cymwysterau wrth gael eich derbyn, fel a ganlyn: 

    • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant – yn addas i’r rheini sy’n ymgeisio nad oes ganddynt radd israddedig ond sydd â phrofiad helaeth o fewn eu proffesiwn ac efallai’n ymgymryd â rhywfaint o addysgu a/neu hyfforddi yn rhan o hyn. 
    • Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant – yn addas i’r rheini sy’n ymgeisio ac mae ganddynt radd israddedig eisoes ac yn dymuno ennill cymhwyster addysgu i’r sector ôl-16.
    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant – yn addas i’r rheini sy’n ymgeisio ac mae ganddynt radd israddedig eisoes ac yn dymuno ennill credydau ar lefel Meistr yn rhan o’u hastudiaethau i’w rhoi tuag at gymhwyster MA priodol ar ôl cwblhau. 
      • Sylwer nad oes modd cofrestru ar y dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig.  Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr cymwys sy’n dymuno ymgymryd â hi yn gallu trosglwyddo i’r rhaglen hon ar ôl cwblhau modylau rhan 1; mae hyn yn amodol ar gytundeb y rheolwr rhaglen.
  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau