Skip page header and navigation

Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (Llawn amser) (MA)

Llambed
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yn gyfle i fyfyrwyr ennill y wybodaeth a’r sgiliau y byddent eu hangen er mwyn addysgu Saesneg i ddysgwyr o wahanol oedrannau ac â gwahanol anghenion addysgol. Dyma gwrs sydd wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr cartref neu ryngwladol sy’n dymuno dechrau ar yrfa lle bydden nhw’n addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.


Nod y rhaglen yw hyfforddi gweithwyr addysgu iaith sy’n hunanfyfyriol ac sydd â sylfaen gadarn o sgiliau ym meysydd gwaith ymchwil, ieithyddiaeth gymhwysol, caffael ail iaith ac addysgu ieithoedd.


Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar sgiliau ymchwil cymhwysol, a bydd cyfleoedd i raddedigion llwyddiannus wneud rhagor o waith ymchwil ar lefel doethuriaeth.
Rhaid i’r holl fyfyrwyr rhyngwladol ar y rhaglen brofi eu bod yn bodloni gofynion Saesneg y Brifysgol ar gyfer astudio ar lefel Meistr: Sgôr IELTS Saesneg cyfartalog o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr yn is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysg sy’n cael ei harwain gan waith ymchwil ac sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ac ar ddefnydd ymarferol
02
Cyfle i raddedigion llwyddiannus fynd ymlaen i wneud Doethuriaeth Proffesiynol mewn Addysg Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
03
Cymysgedd o arddulliau addysgu, gan gynnwys astudiaethau grŵp cyfan a darlithoedd mwy ffurfiol yn ogystal â grwpiau trafod bychain, seminarau, a thiwtorialau un i un

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

I ddechrau, bydd myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl 30 credyd sy’n ffurfio Rhan 1 (120 credyd) y cwrs gradd. Yn Rhan 2 (60 credyd), bydd myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir ymchwil o dan oruchwyliaeth academydd profiadol a gweithgar ym myd ymchwilio.


Bydd y cwrs yn para 1-2 flynedd ar gyfer myfyrwyr llawn-amser (Blwyddyn 1 i gwblhau Rhan 1, Blwyddyn 2 ar gyfer gwaith ymchwil y traethawd hir) a 3-4 mlynedd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser (Blynyddoedd 1-2 ar gyfer Rhan 1 a Blynyddoedd 3-4 ar gyfer Rhan 2). Fodd bynnag, mae modd cwblhau’r rhaglen o fewn blwyddyn o astudio llawn-amser (12 mis, neu 3 tymor o astudio ac ymchwilio heb seibiant). Mae amserlen y llwybr carlam hwn fel a ganlyn: 


Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cwblhau pedwar modiwl 30 credyd sy’n ffurfio Rhan 1 (120 credyd) y cwrs gradd. Yn Rhan 2 (60 credyd), bydd myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir ymchwil o dan oruchwyliaeth academydd profiadol a gweithgar ym myd ymchwilio.


Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o dri semester (mis Hydref tan fis Medi) heb egwyl ac felly mae modd ei chwblhau o fewn blwyddyn (12 mis). Mae’r amserlen fel a ganlyn:

Gorfodol

Addysg Athrawon Iaith Saesneg

(30 credydau)

Damcaniaethau Cyfredol ym maes Caffael Ail Iaith

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (TESOL)

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil Llenyddol

(15 credydau)

Dewisol

Materion Allweddol mewn Ieithyddiaeth

(30 credydau)

Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail uwch), ond gan fod pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gallwn gynnig lleoedd ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiad perthnasol. Gall ymgeiswyr sydd â gradd is neu ddim gradd o gwbl gael eu derbyn ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma i Raddedigion, a bydd cyfle iddynt symud i lefel gradd Meistr os byddan nhw’n gwneud yn dda.

  • Mae’r strategaeth asesu y rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae’r asesiadau ffurfiannol yw defnyddio’r ffurf ‘asesiad troellog’, sydd yn annog myfyrwyr i ailedrych ac i ailddefnyddio’r safonau sydd wedi’u cynnwys mewn modiwlau blaenorol. Yn yr un modd, disgwylir y bydd hunan-fyfyrio yn un o agweddau proffesiynol pob un o raddedigion y rhaglen hon, a bydd yn cael ei ymgorffori a’i ymarfer trwy aseiniadau penodol ym mhob modiwl.


    Mae fformatau asesu nodweddiadol yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau llafar, adolygiadau beirniadol, arddangosiadau o addysgu, ac aseiniadau ysgrifenedig byr eraill.


    Mae asesiadau’r modiwlau wedi’u cynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dasg o gyflwyno traethawd hir MA yn Rhan 2. Mae rhai modiwlau felly’n defnyddio patrwm asesu safonol sy’n cynnwys un neu ddau o draethodau hirach yn ogystal â chyflwyniad. Mewn rhai modiwlau, fodd bynnag, bydd cynnydd myfyrwyr yn cael ei asesu trwy ddefnyddio fformat y portffolio. Mae’r portffolio yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran asesu sgiliau â ffocws proffesiynol, ar y cyd ac yn unigol, o gymharu â’r fformat traethawd/cyflwyniad arferol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yn faes lle mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cyflogi. Bydd y sgiliau a ddysgwch yn ar y cwrs hwn (e.e. cynllunio gwersi, sgiliau cyflwyno, profiad yn yr ystafell ddosbarth, sgiliau ymchwilio) yn gallu cael eu trosglwyddo i ieithoedd eraill ac i ystod o sefyllfaoedd proffesiynol eraill.


    O ran gyrfaoedd, gallwch ddod yn diwtor iaith mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau yn y sector preifat neu gyhoeddus, yn athro cynradd/uwchradd, neu’n hyfforddwr galwedigaethol/diwydiant.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau