Skip page header and navigation

Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (Llawn amser) (CertHE)

Birmingham
1 Blynedd

Gallech ddatblygu eich sgiliau, gwella eich hunanhyder ac ailddechrau ar eich gyrfa ym maes Cyfrifiadura.

Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg Uwch hwn wedi’i gynllunio i roi’r offer i chi roi eich sgiliau ar waith a’u trosglwyddo i’r gweithle. Bydd yn rhoi’r hyder i chi ragweld problemau a dod o hyd i atebion; gweithio’n annibynnol a gyda phobl eraill; a chynllunio pethau cyn dechrau arni a chwblhau’r hyn rydych chi wedi’u dechrau. Y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
1 Blynedd

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hon?

01
Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o'r broses.
03
Datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.

Beth fyddwch yn dysgu?

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

Rhaid gwneud ceisiadau am le ar ein cyrsiau israddedig llawn amser yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.

  • Dadansoddi a Datrys Problemau

    (20 credydau)

    Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

    (20 credydau)

    Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

    (20 credydau)

    Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

    (20 credydau)

    Dysgu yn yr Oes Ddigidol

    (20 credydau)

    Datrysiadau Meddalwedd ar gyfer Busnes

    (20 credydau)

Ein pobl

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref. 

    Rhaid gwneud ceisiadau am le ar ein cyrsiau israddedig llawn amser yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

    Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. 

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswy

  • Ceir amrywiaeth o asesiadau gan gynnwys cyflwyniadau, prosiectau, adroddiadau a blogiau. Does dim arholiadau. 

  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.​

    Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.​

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau