Skip page header and navigation

Cyfrifiadura Cymhwysol (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r sector TG yn cynnig gyrfaoedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau cyfrifiadura yn cynnwys peirianneg meddalwedd, rheolaeth data, AI, rhwydweithio, seiberddiogelwch, profiad defnyddwyr a thechnolegau gwe. Drwy astudio’r rhaglen hon, byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol cysylltiedig â chyfrifiadura cymhwysol. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfleoedd i astudio technolegau a ddefnyddir ar draws y sector cyfrifiadura.

Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin a thrafod gwybodaeth, yn cynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal, yn un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch wedi dysgu sgiliau i’ch galluogi i arwain timau a rheoli prosiectau.

Rydym yn cydnabod ei fod yn bosibl nad yw myfyrwyr eto wedi adnabod maes o ddiddordeb ac yn hytrach eu bod yn dymuno astudio amrywiaeth o bynciau cyn ffocysu ar thema ddewisol. Lluniwyd y rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol ar gampws Abertawe i fodloni’r angen hwn ac mae’r rhaglen yn cynnig detholiad helaeth o bynciau dewisol wedi’u tanategu gan sylfaen o fodylau craidd, bydd tiwtoriaid profiadol yn eich tywys wrth ddewis modylau sy’n gysylltiedig â’ch dewis arbenigedd.

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i’n holl raglenni gradd yn Abertawe drwy ein Blwyddyn Sylfaen yn rhan o’n hymrwymiad i “Ehangu Mynediad”. Llwybr mynediad yw hwn at gyfer myfyrwyr sy’n ceisio newid gyrfa neu’r rheiny sydd angen diweddaru eu sgiliau er mwyn bodloni’r gofynion mynediad.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
ACO8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i ddylunio i gynhyrchu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn niwydiant systemau cyfrifiadura a gwybodaeth y DU sy’n tyfu’n gyflym.
02
Mae’r rhaglen yn cynnwys cysyniadau, egwyddorion a thechnegau traddodiadol datblygu meddalwedd, cronfeydd data a systemau gwybodaeth ond yn cymhwyso’r rhain o fewn cyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
03
Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, meddwl beirniadol, a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Rydym yn cyfuno profiad ymarferol gyda dysgu damcaniaethol dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector TG.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref trwy astudio amrywiaeth eang o bynciau,  mewn datblygu meddalwedd, mathemateg cyfrifiadura, cysyniadau gwe a chronfeydd data, a saernïaeth gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu hanfodol, gan osod y sylfeini ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd i ddod.

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Dewisol

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach, gyda modiwlau mewn rheoli prosiectau TG, dadansoddi systemau, gwaith Fforensig ar gyfrifiaduron ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi meddalwedd. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau gweithredu rhwydwaith a gwasanaethau rhwydwaith yn ogystal â modiwlau dewisol, megis rhoi ar waith rhwydweithio uwch, a Rhaglennu Ystadegol gan wella eich galluoedd technegol a dadansoddol.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Dewisol

Rhwydweithio Uwch

(20 credydau)

Pensaernïaeth Cyfrifiadura Cwmwl

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Datblygu Gemau'n Annibynnol

(20 credydau)

Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau

(20 credydau)

Technolegau Gwe a Symudol

(20 credydau)

Rhaglenni ac Algorithmau Seiliedig ar Wrthrychau

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Mecaneg Gemau

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

(20 credydau)

Fforenseg Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 48 pwynt tariff UCAS (120 cynt).

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth.  Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau.  Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau