Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Datblygu’r We) (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
48 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu meddalwedd, datblygu’r we a chyfrifiadura cwmwl? Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Datblygu’r We wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes datblygu’r we.

Yn y cwrs hwn, byddwch yn dod yn hyddysg yn yr agweddau technegol ar ddatblygu’r we. Mae hyn yn golygu y byddwch yn barod am gyfleoedd cyflogaeth mewn mentrau bach a chanolig eu maint fel datblygwyr y we neu o fewn seilwaith cwmwl. Mae’r galw am weithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn yn tyfu’n gyson, gan gynnig dyfodol disglair i chi mewn technoleg.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau hanfodol sy’n gysylltiedig â datblygu cymwysiadau gwe, datblygu gwasanaethau gwe a chyfrifiadura cwmwl. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi a gweithredu technolegau i ddatrys problemau byd go iawn y gellir eu defnyddio yn y cwmwl, gan ddiwallu gofynion y byd digidol heddiw.

Mae ein hadran gyfrifiadura’n ymfalchïo mewn cysylltiadau cryf â diwydiant sy’n sicrhau bod ein cwricwlwm yn berthnasol ac yn ymarferol. Mae cysylltiadau diwydiant â chwmnïau fel DVLA, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Sony, S8080, Circle IT a Tevel Cyber Corps yn golygu ein bod bob amser yn sicrhau bod cynnwys ein cwrs yn adlewyrchu’r datblygiadau diwydiant diweddaraf. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth flaengar a phrofiad ymarferol sy’n gwella eich cyflogadwyedd.

Mae ein campws yn darparu cyfleusterau cyfrifiadura o’r radd flaenaf lle gallwch berffeithio’ch sgiliau. Mae’r amgylchedd dysgu yn gefnogol ac wedi’i gynllunio i’ch helpu i ffynnu. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu datblygu systemau gwe deinamig, adeiladu gwefannau, a chreu cymwysiadau rhyngrwyd sy’n diwallu anghenion defnyddwyr a sefydliadau fel ei gilydd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
923T
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
48 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cafodd strwythur y rhaglen ei ddatblygu ar y cyd â phrif gwmnïau’r diwydiant a’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain gan ei fod yn bodloni anghenion y diwydiant.
02
Staff hyfforddedig sy’n diweddaru’r rhaglen yn gyson i adlewyrchu natur ddynamig, gyffrous datblygu’r we yn yr amgylchedd busnes sydd ohono.
03
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar y sgiliau technegol i addasu a ffynnu mewn diwydiant arloesol, sy’n datblygu’n gyflym a chanddo gyfleoedd cyflogaeth sylweddol ar gyfer peirianwyr meddalwedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar ddarparu cyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol er mwyn eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant technoleg. Trwy integreiddio cysylltiadau diwydiant a chymwysiadau blaengar, rydym yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddeniadol, gan wella eich cyflogadwyedd a’ch sgiliau technegol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn datblygu meddalwedd, dadansoddi data a seiberddiogelwch. Mae modiwlau’n cynnwys cysyniadau cronfa ddata, systemau gweithredu a saernïaeth gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dysgu am dechnegau ymchwil a dysgu modern sy’n gosod y sylfeini ar gyfer astudio uwch yn y blynyddoedd i ddod.

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o agweddau technegol ac yn rhoi cysyniadau damcaniaethol ar waith  ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Byddwch yn ymgysylltu â systemau gwe deinamig, systemau gwe ymatebol a seilwaith cwmwl. Bydd modiwlau’n cynnwys prosiectau sy’n canolbwyntio ar raglennu ac algorithmau a diogelwch data, gan wella eich profiad ymarferol.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Technolegau Gwe a Symudol

(20 credydau)

Rhaglenni ac Algorithmau Seiliedig ar Wrthrychau

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 48 o bwyntiau tariff UCAS (120 cynt) i gynnwys:

    • Gradd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Ddiploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC - Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
    Mae’n well gennym eich bod yn meddu ar TGAU Mathemateg gradd 4 (C cynt) neu uwch.

    Mae graddau’n bwysig, ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfredol ac wedi’i siapio er cyflogadwyedd trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir ac a gwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Gall myfyrwyr ddewis prynu deunyddiau ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon cyflogaeth rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill yr economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu llwybrau gyrfaol dewisol o fewn chwe mis ar ôl graddio.

    Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith ym meysydd dylunio’r we, datblygu’r we a disgyblaethau cyfrifiadura tebyg.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau