Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
48 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn creu systemau meddalwedd cymhleth? Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Peirianneg Meddalwedd yn canolbwyntio ar ddatblygu meddalwedd a chysyniadau dylunio, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn sefydliadau meddalwedd arbenigol.

Yn y cwrs hwn, byddwch yn cael gwybodaeth dechnegol hanfodol sydd ei hangen ar gyfer datblygu systemau meddalwedd uwch. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm, gan ddysgu sut i lunio, dylunio, datblygu a gweithredu meddalwedd cymhleth. Mae’r rhaglen hon yn meithrin dealltwriaeth gadarn o agweddau, egwyddorion, a thechnegau allweddol sy’n gysylltiedig â datblygu meddalwedd.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn archwilio cysyniadau sydd ar flaen y gad ym maes peirianneg meddalwedd. Byddwch yn dysgu nodi a gweithredu’r technolegau, y technegau, a’r offer cywir ar gyfer tasgau datblygu meddalwedd amrywiol. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar egwyddorion peirianneg meddalwedd.

Mae ein cwrs yn cynnig y cyfle i ymchwilio i wahanol ieithoedd rhaglennu a thechnegau datblygu meddalwedd. Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau ac yn cael profiad ymarferol gyda thechnolegau blaengar. Bydd y sgiliau ymarferol hyn yn hanfodol yn eich gyrfa wrth i chi roi ar waith yr hyn rydych chi’n ei ddysgu i senarios y byd go iawn.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi am dechnolegau datblygu meddalwedd. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi a defnyddio’r technolegau hyn i ddatrys problemau a datblygu cymwysiadau sy’n bodloni gofynion y byd go iawn. Yn ogystal, bydd eich sgiliau cyflogaeth trosglwyddadwy yn cael eu meithrin, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa amrywiol yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.

Fel rhan o’r cwricwlwm, byddwch hefyd yn canolbwyntio ar reoli prosiectau a datblygu’r we pentwr llawn. Byddwch yn deall pwysigrwydd saernïaeth meddalwedd a sut i ddylunio datrysiadau meddalwedd cadarn. Mae cynnwys y cwrs yn cael ei ddiweddaru’n gyson er mwyn cynnal perthnasedd y diwydiant, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer y byd proffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
878T
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
48 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’n rhoi ichi’r holl sgiliau sydd eu hangen i fynd i weithio yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.
02
Wedi’i addysgu gan staff sydd â phrofiad o’r diwydiant ac sydd â chymwysterau academaidd perthnasol.
03
Dysgu sgiliau rhaglennu perthnasol i’r diwydiant peirianneg meddalwedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn dysgu ymarferol ynghyd â sylfeini damcaniaethol cryf. Mae ein dull o addysgu yn sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer rhagori yn y byd go iawn.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu hanfodion ieithoedd rhaglennu, technegau datblygu meddalwedd ac egwyddorion peirianneg meddalwedd. Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau sylfaenol ac yn cael profiad ymarferol gyda thechnolegau blaengar.

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Bydd eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddiogelwch data a chydymffurfiaeth uwch ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi. Byddwch yn ymchwilio i systemau gweithredu ac uwch datblygu meddalwedd uwch, gan wella eich gallu i ddatblygu a rheoli systemau meddalwedd cymhleth.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 48 pwynt tariff UCAS (120 cynt) gan gynnwys:

    • Un radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC – Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 – Pas.

    Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys, Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
    Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel: Rhaglennydd Ffiseg, Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd, Profwr Meddalwedd a Rheolwr Adeiladu TG.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau