Skip page header and navigation

Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen MSc hon yn rhan o faes o newid technolegol sydd ar gynnydd ac mae’n cyflwyno sgiliau uwch a gwybodaeth am y maes hwnnw. 

Mae myfyrwyr yn dysgu am gyflwr presennol y diwydiant. Rhoddir pwyslais hefyd ar sgiliau dysgu gydol oes fel bod myfyrwyr yn gallu diweddaru eu sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn dysgu am amrywiaeth o gysyniadau rhaglennu, delweddu data a thechnegau cloddio data’n drylwyr er mwyn datblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth.
02
Mae staff sydd â sgiliau arbennig yn diweddaru’r rhaglen yn gyson i adlewyrchu’r maes cyfrifiadura cyffrous, deinamig sy’n datblygu’n gyflym yn yr amgylchedd busnes sydd ohoni.
03
Datblygwyd strwythur y rhaglen ar y cyd â chwmnïau sy'n arwain y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen MSc hon yn cyflwyno’r theori a’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn hyddysg mewn peirianneg meddalwedd uwch gyda phwyslais ar ddeallusrwydd artiffisial. 

Mae’r rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â nifer o dasgau byd go iawn, gan ddefnyddio technoleg meddalwedd wrth ddylunio a datblygu cymwysiadau cymhleth, a allai gael eu hehangu.

Er mwyn adlewyrchu’r galw cynyddol am ddeallusrwydd artiffisial a systemau dysgu peirianyddol, bydd graddedigion y rhaglen hon yn dysgu’r sgiliau meddalwedd diweddaraf wrth ddatblygu a defnyddio cymwysiadau sy’n defnyddio’r technolegau hyn.

Datblygu Ystwyth a DevOps Meddalwedd

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial

(20 credydau)

Egwyddorion ac Arfer Peirianneg Cwmwl

(20 credydau)

Diogelwch, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae angen i ymgeiswyr feddu ar Radd Anrhydedd (2.2 neu uwch) neu gymhwyster uwch mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol o Brifysgol yn y DU neu sefydliad tramor cydnabyddedig neu brofiad diwydiannol mewn TG a Gradd Anrhydedd. 

    Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, gofynnwn eich bod wedi cymryd prawf IELTS Academaidd gyda sgôr o 6.0 o leiaf (dim un elfen yn llai na 5.5). Am wybodaeth lawn, ewch i’n tudalen Ryngwladol.

  • Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.

    Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.

    Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2. 

    Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd). 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.

    Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.

    Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe.

    Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.

    Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:

    • Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
    • Dadansoddwr data
    • Gweinyddwr cronfa ddata
    • Datblygwr rhaglen
    • Datblygwr gwefannau

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau