Mae’r rhaglen MSc hon yn rhan o faes o newid technolegol sydd ar gynnydd ac mae’n cyflwyno sgiliau uwch a gwybodaeth am y maes hwnnw.
Mae myfyrwyr yn dysgu am gyflwr presennol y diwydiant.
Rhoddir pwyslais hefyd ar sgiliau dysgu gydol oes fel bod myfyrwyr yn gallu diweddaru eu sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs MSc hwn yn cyflwyno cynnwys technegol sylweddol a fydd yn datblygu sgiliau myfyrwyr wrth ddatblygu systemau deallus.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sefydliadau mawr wedi buddsoddi’n sylweddol mewn technolegau storio data a chloddio data sydd bellach ar flaen y gad o ran deallusrwydd busnes.
Mae deallusrwydd artiffisial yn faes enfawr arall sy’n tyfu - gan ragweld cyfeiriad y dyfodol mewn llawer o feysydd gan gynnwys busnes, iechyd a thrafnidiaeth i enwi ond rhai.
Byddwch yn dysgu defnyddio cronfeydd data ac offer dadansoddol i nodi tueddiadau, patrymau a chydberthyniadau mewn data. Byddwch hefyd yn dysgu am gymhwyso deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i ganiatáu dadansoddiad dwfn o setiau data mawr.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae angen i ymgeiswyr feddu ar Radd Anrhydedd (2.2 neu uwch) neu gymhwyster uwch mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol o Brifysgol yn y DU neu sefydliad tramor cydnabyddedig neu brofiad diwydiannol mewn TG a Gradd Anrhydedd.
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, gofynnwn eich bod wedi cymryd prawf IELTS Academaidd gyda sgôr o 6.0 o leiaf (dim un elfen yn llai na 5.5). Am wybodaeth lawn, ewch i’n tudalen Ryngwladol.
-
Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.
Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.
Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2.
Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd).
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.
Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.
Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.
Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:
- Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
- Dadansoddwr data
- Gweinyddwr cronfa ddata
- Datblygwr rhaglen
- Datblygwr gwefannau