Prentisiaeth mewn Profiad Defnyddywr Digidol (UX) (Prentisiaeth Broffesiynol) (Israddedig)
Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu mewn cydweithrediad â’n partneriaid mewn diwydiant i roi’r sgiliau angenrheidiol i unigolion i archwilio, dadansoddi, a llunio’r cynnyrch digidol a’r profiad gwasanaeth drwy ddylunio’r Profiad Defnyddwyr. Cyflwynir y rhaglen hon dros 48 mis trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein ac ar y campws. Mae’r rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn yng Nghymru ac yn Lloegr
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Mae’r rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn yng Nghymru ac yn Lloegr. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant.
Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credyd)
(10 Credydau)
(10 Credydau)
(10 Credydau)
(10 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(10 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(10 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Tri semester y flwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr yn astudio 80-100 o gredydau’r flwyddyn dros dri semester. Cyfanswm o 12 semester. Ar gyfer myfyrwyr ar y Fframwaith Saesneg, bydd y modwl Asesiad Pwynt Terfynol nad yw’n dwyn credyd yn dechrau pan fydd 330 o gredydau wedi’u cwblhau.
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.
Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd.
Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.
Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.
Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.