Mae MSc Seiberddiogelwch a Fforenseg Digidol yn rhaglen arbenigol a fydd yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes seiberddiogelwch. Byddwch yn dysgu sut i ddiogelu seilwaith TG y sefydliad rhag bygythiadau ac ymosodiadau trwy gynnal profion hacio amser real, a byddwch yn ymchwilio ac yn dadansoddi digwyddiadau seiber.
Mae PCYDDS yn falch o fod yn Academi Cisco ers 1999 ac yn bartner Academi EC-Council ers 2018. Rydym hefyd yn Academi Seiberddiogelwch Palo Alto ac Academi Ddiogelwch Checkpoint. Ni yw’r unig brifysgol i gynnig y rhaglen radd unigryw hon sy’n cyfuno cwricwlwm gan y prif ddarparwyr hyn ym maes seiberddiogelwch fydd yn eich paratoi ar gyfer ardystiadau diwydiant fel Haciwr Moesegol Ardystiedig (CEH), Ymchwilydd Fforensig Hacio Cyfrifiaduron (CHFI), Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA), a Gweinyddwr Diogelwch Ardystiedig Checkpoint (CCSA), fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi.
Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o gysyniadau, offer a thechnegau seiberddiogelwch, yn ogystal â phrofiad ymarferol o gynnal senarios byd go iawn. Bydd gennych fynediad i amrywiaeth o offer a thechnolegau seiberddiogelwch a fforenseg ddigidol, a byddwch yn dysgu sut i’w defnyddio i nodi ac ymateb i fygythiadau seiber posibl.
Ni sydd â’r labordy rhwydweithio a seiberddiogelwch gorau yng Nghymru.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw cyflwyno gwybodaeth a sgiliau manwl ym maes arbenigol rhwydweithio a diogelwch.
Fe’i datblygwyd mewn ymateb i’r angen am bersonél sydd â’r sgiliau angenrheidiol i ddylunio, gweithredu a datrys problemau seilwaith rhwydwaith cyfrifiadurol menter.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer graddedigion gwyddoniaeth a thechnoleg sydd â rhywfaint o wybodaeth flaenorol am gyfrifiadura a/neu rwydweithio ac sy’n dymuno arbenigo mewn rhwydweithio cyfrifiadurol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae angen i ymgeiswyr feddu ar Radd Anrhydedd (2.2 neu uwch) neu gymhwyster uwch mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol o Brifysgol yn y DU neu sefydliad tramor cydnabyddedig neu brofiad diwydiannol mewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol a Gradd Anrhydedd.
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, gofynnwn eich bod wedi cymryd prawf IELTS Academaidd gyda sgôr o 6.0 o leiaf (dim un elfen yn llai na 5.5). Am wybodaeth lawn, ewch i’n tudalen Ryngwladol.
Mae CCNA Cisco yn cael ei argymell.
-
Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.
Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gafodd eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.
Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol/traethawd hir sylweddol ar gyfer Rhan 2.
Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd).
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn hyfforddiant ardystio Cisco neu’r EC-Council dalu £150 (CCNP) neu £300 (tystysgrif yr EC-Council).
Byddai myfyrwyr sy’n dymuno dilyn ardystiad diwydiant Cisco a’r EC-Council yn wynebu costau ychwanegol er mwyn talu ffioedd yr arholiad.
Rhaid archebu holl arholiadau Cisco trwy ganolfan brofi Pearson VUE. Trwy gwblhau cwrs Cisco Academy yn llwyddiannus efallai y byddwch yn gymwys i gael taleb ar gyfer gostyngiad.
Gellir sefyll arholiad ardystio’r EC-Council yn y Brifysgol gyda ffi ychwanegol o £300 yr arholiad.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n gysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau a byddant yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio a diogelwch.
Efallai y bydd gofyn iddynt reoli timau o gymdeithion/peirianwyr rhwydwaith o fewn amgylchedd menter naill ai ar brosiect bach neu ar raddfa fawr.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen tipyn o ddealltwriaeth dechnegol o’r materion sy’n codi a gwerthfawrogi pa mor gymhleth yw’r tasgau.
Mewn BBaCh, uwch aelod o’r staff datblygu sydd â dyletswyddau datblygu a rheoli sy’n aml yn cyflawni’r rôl hon ac agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw datblygu’r sgiliau rheoli angenrheidiol at y diben hwn.
Fel uwch beiriannydd neu reolwr rhwydwaith, byddai disgwyl i’r myfyriwr graddedig ddangos ei fenter a defnyddio ei sgiliau ymchwil i addasu’n gyflym i ofynion technoleg newydd.
Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:
- Peirianwyr Rhwydwaith
- Uwch Beirianwyr Rhwydwaith
- Peirianwyr Cefnogi Rhwydwaith
- Peirianwyr Diogelwch
- Peirianwyr Systemau
- Arbenigwyr Rhwydwaith
- Dadansoddwyr Rhwydwaith/Diogelwch
- Ymgynghorwyr Rhwydwaith/Diogelwch
- Rheolwyr Rhwydwaith