Skip page header and navigation

Data a Deallusrwydd Artiffisial (MSc, PGDip, PGCert)

Abertawe
Rhan-amser neu amser llawn

Mae’r rhaglen MSc hon yn rhan o faes o newid technolegol sydd ar gynnydd ac mae’n cyflwyno sgiliau uwch a gwybodaeth am y maes hwnnw. 

Mae myfyrwyr yn dysgu am gyflwr presennol y diwydiant.

Rhoddir pwyslais hefyd ar sgiliau dysgu gydol oes fel bod myfyrwyr yn gallu diweddaru eu sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Rhan-amser neu amser llawn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs yn cael ei addysgu gan staff sydd â chymwysterau academaidd ac yn y diwydiant.
02
Cewch brofiad ymarferol gyda'r holl galedwedd a’r feddalwedd berthnasol.
03
Byddwch yn dysgu am amrywiaeth o gysyniadau rhaglennu, delweddu data a thechnegau cloddio data’n drylwyr er mwyn datblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs MSc hwn yn cyflwyno cynnwys technegol sylweddol a fydd yn datblygu sgiliau myfyrwyr wrth ddatblygu systemau deallus.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sefydliadau mawr wedi buddsoddi’n sylweddol mewn technolegau storio data a chloddio data sydd bellach ar flaen y gad o ran deallusrwydd busnes.

Mae deallusrwydd artiffisial yn faes enfawr arall sy’n tyfu - gan ragweld cyfeiriad y dyfodol mewn llawer o feysydd gan gynnwys busnes, iechyd a thrafnidiaeth i enwi ond rhai. 

Byddwch yn dysgu defnyddio cronfeydd data ac offer dadansoddol i nodi tueddiadau, patrymau a chydberthyniadau mewn data. Byddwch hefyd yn dysgu am gymhwyso deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i ganiatáu dadansoddiad dwfn o setiau data mawr.

Systemau Cronfa Ddata

(20 credydau)

Cloddio a Delweddu Data

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol Uwch

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial

(20 credydau)

Diogelwch, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae angen i ymgeiswyr feddu ar Radd Anrhydedd (2.2 neu uwch) neu gymhwyster uwch mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol o Brifysgol yn y DU neu sefydliad tramor cydnabyddedig neu brofiad diwydiannol mewn TG a Gradd Anrhydedd.  

    Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, gofynnwn eich bod wedi cymryd prawf IELTS Academaidd gyda sgôr o 6.0 o leiaf (dim un elfen yn llai na 5.5). Am wybodaeth lawn, ewch i’n tudalen Ryngwladol.

  • Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.

    Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.

    Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2. 

    Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd). 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.

    Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.

    Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.

    Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:

    • Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
    • Dadansoddwr data
    • Gweinyddwr cronfa ddata
    • Datblygwr rhaglen
    • Datblygwr gwefannau

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau