Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Systemau cronfa ddata sydd wrth wraidd systemau gwybodaeth modern.

Bydd graddedigion y rhaglen hon yn defnyddio eu harbenigedd i ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw datrysiadau arloesol seiliedig ar gyfrifiaduron i gefnogi isadeiledd technolegol sefydliadau cyfoes.

Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw systemau gwybodaeth o ansawdd uchel a chymwysiadau a yrrir gan ddata. 

Byddwch yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar ddatblygwr a rhaglennydd systemau gwybodaeth i greu atebion i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau peirianneg feddalwedd yn rhan o dîm yn ddymunol iawn gan gyflogwyr.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd graddedigion y rhaglen hon yn dysgu i ddylunio, creu a gweinyddu cronfeydd data a datblygu rhaglenni i ddatblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau yn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r seilwaith sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach a chaniatáu hyblygrwydd i drosglwyddo dros lwybrau ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu rhagor o fanylion ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Rhwydweithio Uwch

(20 credydau)

Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Fforenseg Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Switsio, Llwybro a Di-wifr

(20 credydau)

Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomatiaeth

(20 credydau)

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau