Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (HNC)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn Amser
48 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn diogelu gwybodaeth ddigidol ac adeiladu systemau cyfrifiadurol diogel? Mae ein Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch wedi’i chynllunio er mwyn rhoi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer y tasgau hyn. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar dri phrif faes: llwybro a switsio, diogelwch, a gwaith fforensig.

Fel myfyriwr, byddwch yn archwilio sut mae rhwydweithiau cyfrifiadurol yn gweithio mewn gwahanol sefydliadau ac yn dysgu sut i ddatblygu atebion rhwydweithio. Mae hyn yn cynnwys deall rôl gweinyddu rhwydwaith, sy’n cynnwys cynnal a rheoli seilwaith rhwydwaith.

Mae’r cwricwlwm yn cydbwyso dysgu ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol, gan sicrhau y gallwch ddefnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar gyfer sefyllfaoedd byd go iawn. Byddwch yn dysgu sut i ddewis a defnyddio’r technolegau a’r offer priodol i ddatrys problemau, o nodi problemau â rhwydweithiau i gynllunio atebion effeithiol. Mae’r dull hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau, sy’n hanfodol ym maes seiberddiogelwch.

Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant, gan ein bod yn aelod o Academi Cisco er 1999 ac yn bartner Academi EC Council er 2018. Yn ogystal, bydd gennych fynediad i’n labordy seiberddiogelwch ardderchog. Mae gan y cyfleuster hwn yr offer a’r technolegau diweddaraf, gan ddarparu profiad dysgu ymarferol. Byddwch yn gweithio gyda thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, gan gael sgiliau ymarferol sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.

Bydd cwblhau’r HNC hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, gan ganolbwyntio ar roi sgiliau ar waith yn ymarferol wrth lwybro, switsio a gwneud gwaith fforensig. Mae’n gam ardderchog tuag at yrfa mewn gweinyddu rhwydwaith a seiberddiogelwch, gan agor drysau i wahanol gyfleoedd gwaith yn y maes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
012H
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gofynion mynediad:
48 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
02
Ceir profiad ymarferol gyda llwybryddion, switsys, waliau tân a meddalwedd Cisco a ddefnyddir o fewn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch.
03
Wedi’i gyfuno ag ardystiad Llwybro a Switsio CCNA y mae galw mawr amdano.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein hathroniaeth yw cyfuno gweithredu ymarferol â thrylwyredd academaidd, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol. Mae’r dull hwn yn eich paratoi ar gyfer heriau byd go iawn mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar hanfodion technolegau rhwydweithio a datblygu meddalwedd. Byddwch yn dysgu am ddadansoddi data, egwyddorion delweddu sylfaenol, a chyflwyniad i waith fforensig. Mae’r wybodaeth sylfaenol hon yn gosod y sylfaen ar gyfer pynciau uwch yn y blynyddoedd dilynol.

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 40 pwynt tariff UCAS (100 cynt).

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol seilweithiau rhwydwaith. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn pwysleisio pedair thema allweddol o fewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol: llwybro a switsio, technolegau rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Bydd graddedigion yn gallu ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio.

    Rhagwelir bod graddedigion ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol (RhC) yn gallu dod o hyd i waith mewn nifer o wahanol feysydd o RhC, gan gynnwys llwybro a switsio, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Disgwylir i raddedigion chwilio am swyddi fel:

    • Gweinyddwyr Rhwydwaith
    • Cymdeithion Rhwydwaith
    • Peirianwyr Rhwydwaith
    • Gweinyddwr System

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau