Skip page header and navigation

Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc Anrh)

Birmingham
2 Blynedd Llawn Amser
Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

Mae Cyfrifiadura Cymhwysol yn cwmpasu ystod eang o bynciau cyfrifiadurol yn ogystal â’r modiwlau cyfrifiadura hanfodol craidd.

Mae’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol wedi’i gynllunio i ddilyn y Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle.

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i gynllunio i greu graddedigion sy’n barod i ddechrau gweithio yn niwydiant cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yn y DU.
02
Mae'r rhaglen yn dysgu’r cysyniadau, yr egwyddorion a’r technegau traddodiadol a geir ym meysydd datblygu meddalwedd a systemau cronfeydd data, ond gan eu cymhwyso yng nghyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
03
Gan ddefnyddio ein cysylltiadau diwydiannol, rydym wedi datblygu strwythur rhaglen sy’n dysgu’r sgiliau diweddaraf i fyfyrwyr ac yn meithrin gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae twf enfawr y Rhyngrwyd a’r cynnydd canlynol yn y defnydd a’r amrywiaeth o rwydweithiau cyfrifiadurol, dyfeisiau rhaglenadwy a systemau gwybodaeth, ynghyd â’r gyfradd gyflym o newid, yn golygu y bydd galw parhaus am weithwyr sydd â sgiliau a chymwysterau cyfrifiadurol cyfoes. 

Mae’r Rhyngrwyd, yn enwedig, wedi sbarduno chwyldro technolegol mawr sy’n cael a fydd yn parhau i gael effaith enfawr ar gymdeithas. Mae’r newid radical, trawsnewidiol sy’n digwydd ym maes cyfrifiadura, ynghyd â dibyniaeth sefydliadau ar dechnoleg i gynnal mantais gystadleuol, yn gymhelliad i ymgorffori syniadau, modelau a thechnolegau newydd mewn rhaglenni sy’n ymwneud â chyfrifiadura.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n cael eu rhannu rhwng sawl cwrs yn y Portffolio Cyfrifiadura. Rhain sy’n gosod y sylfeini ar gyfer y blynyddoedd canlynol.  Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws i’ch astudiaethau.

Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu trwy beiriannu datrysiadau meddalwedd fel rhan o dîm yn eich gwneud yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Rheoli Busnes a'r We

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Cysyniadau Sgriptio a Rhaglennu

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

((20 credyd))

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Warysu Data a Chloddio Data

(20 credydau)

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

    Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

  • Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy gyfuniad o daflenni gwaith, sesiynau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, bydd modiwlau’n cael eu hasesu drwy aseiniad, neu drwy aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs sy’n cael eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

  • Ni fydd costau ychwanegol gorfodol y tu hwnt i’r ffioedd dysgu. 

    Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo rhai costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac unrhyw wario ar y campws, fel prynu paneidiau, byrbrydau neu eitemau eraill.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer i’w helpu i astudio, fel gliniaduron, er nad yw’r rhaglen yn gwneud hyn yn ofynnol Bydd unrhyw gostau y tu hwnt i ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig ag astudio neu fywyd myfyrwyr yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr ar adeg cofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon cyflogaeth rhagorol ym meysydd cyfrifiadura, addysgu, darlithio, TGCh, yn ogysgal â mewn rhannau eraill o’r economi. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y mwyafrif helaeth yn dechrau dilyn eu llwybrau gyrfa dewisol o fewn chwe mis o raddio.

    Mae ein graddedigion yn mynd i weithio ym meysydd datblygu rhaglenni, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd ddata, systemau gwybodaeth, ymgynghoriaeth a rheoli, ac ati.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau