Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Pwyslais y rhaglen hon yw datblygu meddalwedd, graffeg cyfrifiadurol a gemau cyfrifiadurol. Dewiswch y cwrs hwn i ddod yn fedrus a gwybodus yn nulliau technegol datblygu meddalwedd, gyda ffocws penodol ar gemau. Mae graddedigion y rhaglen hon yn debygol o gael cyflogaeth naill ai o fewn y diwydiant gemau neu gyda sefydliadau meddalwedd arbenigol.
Byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth ar y rhaglen hon. Fe gewch wybodaeth am sefyllfa gyfredol y diwydiant ac mae hefyd pwyslais ar sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, fel y byddwch yn gallu diweddaru eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa.
Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ym maes Gemau Cyfrifiadurol ac yn eu galluogi i ddilyn diddordebau mwy arbenigol.
Wedi graddio o’r cwrs hwn, bydd eich cyflogaeth o fewn y maes hwn yn debygol o ddechrau fel aelod o dîm, yn synio, dylunio, datblygu a gweithredu meddalwedd cymhleth ar gyfer y diwydiannau gemau neu ddiwydiannau cysylltiedig.
Cyfrifiadura (Datblygu Gemau)
BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd (Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 126S
Gwneud cais trwy UCAS
HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 478T
Gwneud cais trwy UCAS
BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: DGV2
Gwneud cais trwy UCAS
Stem Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Gyfrifiadura)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefelau 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwneud cais trwy UCAS
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Wedi’i addysgu gan staff sydd â phrofiad academaidd a diwydiant gemau perthnasol.
- Darganfod cyfrinachau Datblygu Gemau drwy ddefnyddio C/C++
- Cwmpasu hanfodion rhaglennu Graffeg amser go iawn, systemau Rhith-wirionedd a Deallusrwydd Artiffisial
- Cael profiad uniongyrchol drwy ddefnyddio’r peiriannau a chonsolau gêm safon diwydiannol diweddaraf
- Datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddiogelu gyrfa yn y diwydiannau gemau cyfrifiadurol a pheirianneg meddalwedd
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal gemau cyfrifiadurol o ansawdd uchel. Bydd y myfyriwr yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar raglennydd proffesiynol i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu gemau cyfrifiadurol yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.
Modylau Blwyddyn 0 - Mynediad Sylfaen
- Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd)
- Mathemateg (10 credyd)
- Gwyddoniaeth (10 credyd)
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC
- Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd (20 credyd)
- Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
- Technoleg a Diogelwch Rhyngrwyd (20 credyd)
- Mathemateg (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND
- Datblygu Meddalwedd Uwch (20 credyd)
- Datblygu Cymwysiadau (20 credyd)
- Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd)
- Pensaernïaeth a Mecaneg Gemau (20 credyd)
- Rhaglennu Graffeg a Gemau (20 credyd)
- Rheoli Prosiect a Dulliau Ymchwil (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc
- Prosiect Mawr (40 credyd)
- Rhaglenni Graffeg a Gemau Uwch (20 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu peiriannau (20 credyd)
- Rhaglennu GPU (20 credyd)
- Cymwysiadau wedi’u Rhwydweithio (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 4 - Meistr Integredig - MComp
Mae MComp Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr. Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar lwybr carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:
- Datblygu Meddalwedd Ystwyth (20 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannau Uwch (20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
- Prosiect Grŵp (60 credyd)
Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg, Gweler: Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn ym Myd Diwydiant.”
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Achrediadau Proffesiynol
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru ar gyfer statws llawn Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) gyda Chymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) a statws CEng rhannol.
Gwybodaeth allweddol
MComp Cyfrifiadura – 4 Blynedd Llawn Amser – COD UCAS: 555R
120 pwynt tariff UCAS (300 cynt) gan gynnwys:
Dwy radd B Safon Uwch/AVCE; neu
Ddiploma Cenedlaethol BTEC gradd Teilyngdod, Teilyngdod, Pas; neu
Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Anrhydedd, Teilyngdod; neu
NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Cyfrifiadura, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Electroneg neu debyg.
Mae angen TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch.
BSc Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) – COD UCAS: 126S
104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:
Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
Ddiploma Cenedlaethol BTEC gradd Teilyngdod, Pas, Pas; neu
Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.
Mae angen TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch.
HND Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) – COD UCAS: 478T
48 pwynt tariff UCAS (120 cynt) gan gynnwys:
Gradd C Safon Uwch/AVCE; neu
Ddiploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC – Pas; neu
NVQ Lefel 3 – Pas.
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys, Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddewisol.
HNC Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) – COD UCAS: 455H
40 pwynt tariff UCAS (100 cynt)
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Nodweddiadol:
Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Arall:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sy’n cynnig cymwysterau amgen. Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM – COD UCAS: HR3U
Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel Rhaglennydd Iau, Prif Raglennydd, Rhaglennydd Injan/Offer, Rhaglennydd Graffeg/Effeithiau Arbennig/Rendro, Rhaglennydd/Peiriannydd Awdio, Rhaglennydd Deallusrwydd Artiffisial, Rhwydweithio/Aml-chwaraewr, Rhaglennydd Rhwydweithio, Rhaglennydd Gemau Symudol, Rhaglennydd Ffiseg, Pheiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd ayb.
Dyma broffiliau rhai o raddedigion y rhaglen hon a lle maen nhw nawr:
For all graduate testimonials, please see here:
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
James Simonson, BSc Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
“Roedd dod o hyd i waith ar ôl y radd Datblygu Gemau Cyfrifiadurol yn haws gan fod y rhaglen yn rhoi ichi’r sgiliau y mae’r rhan fwyaf o ddiwydiannau’n chwilio amdanynt. Addysgodd y rhaglen egwyddorion peirianneg rhaglennu a meddalwedd, mathemateg rhwydweithio a chymhwysol, adeiladu a datblygu gwefannau ac apiau, rhaglennu gweinydd, delweddu data a cloddio data."
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.