Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Datblygu’r We) (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Pwysleisir datblygu meddalwedd, datblygu gwe a chyfrifiadura cwmwl ar y rhaglen hon. Wedi graddio, byddwch yn fedrus ac yn wybodus yn agweddau technegol ar ddatblygu gwe a chyfrifiadura cwmwl. Byddech yn dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth naill ai mewn mentrau bach a chanolig fel datblygwyr gwe neu weithio o fewn seilwaith cwmwl ar lefel menter.

Datblygwch eich dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â datblygu cymwyseddau gwe, datblygu gwasanaeth gwe a chyfrifiadura cwmwl, wrth i chi ddysgu i ddadansoddi technolegau a gymhwysir wrth ddatrys problemau y gellir eu defnyddio yn y cwmwl i fodloni gofynion y byd go iawn.

Mae gan yr adran gyfrifiadura gysylltiadau datblygedig gyda diwydiant, sy’n bwydo cynnwys ymarferol lefel uchel gwerthfawr i mewn i’r rhaglen. Mae ymgorffori cynnwys fel Gwasanaethau Gwe Node.js, Docker a REST yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddeall a chymhwyso’r cysyniadau damcaniaethol a astudiwyd mewn cyd-destunau go iawn. Y fantais i chi yw y bydd cymhwysiad ymarferol, byd go iawn o’r fath yn gwella eich sgiliau, a thrwy hynny eich cyflogadwyedd, heb aberthu trylwyredd academaidd.

Mae’r cysylltiadau gyda diwydiant yn cynnwys DVLA, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Sony, S8080, Circle IT a Tevel Cyber Corps.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
979S
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
BCS The Chartered Institute for IT Logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cafodd strwythur y rhaglen ei ddatblygu ar y cyd â phrif gwmnïau’r diwydiant a’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain gan ei fod yn bodloni anghenion y diwydiant.
02
Staff hyfforddedig sy’n diweddaru’r rhaglen yn gyson i adlewyrchu natur ddynamig, gyffrous datblygu’r we yn yr amgylchedd busnes sydd ohono.
03
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar y sgiliau technegol i addasu a ffynnu mewn diwydiant arloesol, sy’n datblygu’n gyflym a chanddo gyfleoedd cyflogaeth sylweddol ar gyfer peirianwyr meddalwedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer y blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd i drosglwyddo ar draws llwybrau yn eich blwyddyn gyntaf.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu mwy o ddyfnder ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol i roi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda’r technolegau diweddaraf a chymhwyso cysyniadau cyfredol mewn meysydd amrywiol fel cyfryngau cymdeithasol, datblygu’r rhyngrwyd ac e-fasnach.

Bydd graddedigion yn datblygu sgiliau sy’n cynnwys: dylunio’r we, rhaglennu o ochr y gweinyddwr, sgriptio o ochr y cleient a datblygu cronfeydd data. Ynghyd â gwerthfawrogiad o gysyniadau pwysig dylunio meddalwedd, defnyddioldeb a gweinyddu cronfeydd data.

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Technolegau Gwe a Symudol

(20 credydau)

Rhaglenni ac Algorithmau Seiliedig ar Wrthrychau

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl

(20 credydau)

Egwyddorion ac Arfer Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 104 o bwyntiau tariff UCAS (260 cynt) i gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
    • Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae’n well gennym eich bod yn meddu ar TGAU Mathemateg gradd 4 (C cynt) neu uwch.

    Mae graddau’n bwysig, ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfredol ac wedi’i siapio er cyflogadwyedd trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir ac a gwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Gall myfyrwyr ddewis prynu deunyddiau ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon cyflogaeth rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill yr economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu llwybrau gyrfaol dewisol o fewn chwe mis ar ôl graddio.

    Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith ym meysydd dylunio’r we, datblygu’r we a disgyblaethau cyfrifiadura tebyg.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau