Skip page header and navigation

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn Amser

Ydych chi’n gobeithio camu ar, neu i fyny, yr ysgol yrfa? Ydych chi’n gobeithio astudio graddVmewn lleoliad sy’n agos i chi, gan ddal ati weithio? Dysgwch a datblygwch strategaethau arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer y gweithle gyda’r dystysgrif Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol drwy eich cyflwyno i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Ymhlith y meysydd a gwmpesir mae rôl trafodaeth a dadlau wrth ddatrys problemau, datblygiad eich deallusrwydd emosiynol a’r gallu i weithio’n effeithiol, yn annibynnol ac mewn tîm, ac arfer adfyfyriol.

Cewch fynediad i’r rhaglen drwy wneud cais ar-lein, ac nid oes raid i chi feddu ar gymwysterau blaenorol. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfleoedd i gael eich addysgu mewn amrywiaeth o ganolfannau yn y gymuned.

Cyflwynir y rhaglen gyda’r nos yn yr wythnos ac yn ystod y dydd ar benwythnosau – er enghraifft un dydd Sadwrn ac yna tair nos  Fawrth ac ati, er mwyn eich galluogi i weithio ar yr un pryd ag astudio.

Bydd holl ymgeiswyr llwyddiannus y rhaglen TystAU yn graddio â Thystysgrif Addysg Uwch a Thystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan ILM a chynigir cyfle iddynt fynd ymlaen i raglen BA (Anrh) lawn a addysgir yn yr un ffordd. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus ar y rhaglen BA yn graddio â thystysgrif Gradd BA (Anrh) a thystysgrif statws proffesiynol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Ar ôl blwyddyn o astudiaethau llwyddiannus, bydd myfyrwyr TystAU yn graddio gydag achrediad deuol, ardystiad a chydnabyddiaeth ddigidol gan yr ILM. Yna gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r rhaglenni atodol DipAU neu BA.

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus ar y rhaglen BA yn graddio â thystysgrif gradd y Drindod Dewi Sant, tystysgrif statws proffesiynol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ynghyd â’r cyfle i ddefnyddio llythrennau ôl-enwol am ddim am gyfnod o hyd at 3 mis.

Rydym yn rhoi opsiwn i’n myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ennill Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gall myfyrwyr adeiladu eu gwybodaeth am fusnes, rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan arwain at ddatblygu strategaethau, cynlluniau a beirniadaeth wybodus.
02
Cyfle a’r hyblygrwydd i fyfyrwyr gael eu haddysgu mewn lleoliad allgymorth yn y gymuned yn agos at ble maen nhw’n byw/gweithio, ynghyd ag astudio ar-lein. Targedir y rhai sydd eisoes yn gweithio yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith newydd.
03
Mae pob modwl wedi’i fapio naill ai i gyrff proffesiynol neu ddyfarnu yn y maes hwn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nodau’r rhaglen yw:

  • Rhoi cyfle i ddysgwyr astudio am ddyfarniad sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol
  • Cyflwyno myfyrwyr i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn cyd-destun cyffredinol
  • Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafod a dadlau wrth brosesu a datrys problemau
  • Datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac effeithlon
  • Rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu i fyfyrwyr a luniwyd i’w cynorthwyo i gaffael a chymhwyso gwybodaeth
  • Galluogi dysgwyr i ddod yn rheolwyr adfyfyriol, sy’n gallu diffinio targedau personol a phroffesiynol a’u cyflawni, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.

Carfan 1 - Hydref i Awst

 Gorfodol

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Cyfathrebu Rheoli

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Carfan 2 - Chwefror i Dachwedd

 Gorfodol

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Cyfathrebu Rheoli

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Lefel 5 dros 10 mis - Chwefror i Dachwedd

 Gorfodol

Datblygu'r Sefydliad Dysgu

(20 credydau)

Datblygu Meddwl Beirniadol yn y Gweithle

(20 credydau)

Deall ac Ymgysylltu â Phrofiad y Cwsmer

(20 credydau)

Rheoli Prosiect

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Lefel 6 dros 10 mis - Chwefror i Dachwedd

 Gorfodol

Hyfforddi a Mentora

(30 credydau)

Arwain a Gweithredu Newid yn y Gweithle

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Deallusrwydd Emosiynol

(20 credydau)

Arweinyddiaeth Ysbrydoledig

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol byddwn fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.

    Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.

    Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.

    I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:

    • Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
    • Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
    • Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
  • Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.

    Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.

    Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchog”.

    Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau