Skip page header and navigation

Busnes Rhyngwladol (Llawn amser) (MBA)

Birmingham
1 Flwyddyn Llawn amser

Mewn ymateb i’r galw o fyd diwydiant, mae’r MBA hwn yn cyfuno astudiaeth sylfaenol o’r pynciau busnes craidd gan amlygu arbenigedd mewn busnes rhyngwladol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau arwain a rheoli a fydd yn hanfodol i ddatblygiad eich gyrfa.
02
Cewch weithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol ac sy’n dysgu ar sail arfer dda, a byddan nhw’n eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Bydd yn eich paratoi ar gyfer deall y gymuned busnes ar lefel ryngwladol a byd-eang.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu ystod eang o fodiwlau busnes a rheolaeth gyffredinol. Cewch eich annog i ddefnyddio’r cysyniadau rydych chi wedi’u dysgu mewn achosion ymarferol, a hynny er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’r fethodoleg ddamcaniaethol.

Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i ddatblygu eich gallu a’ch galluogi i reoli ac arwain sefydliadau yn effeithiol. 

Ar ôl ymdrin â’r cwricwlwm cyffredinol yn y pedwar modiwl cyntaf, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar yr amgylchedd busnes rhyngwladol ac ar farchnata mewn cyd-destun byd-eang.

Mae modd addasu’r modiwl olaf i weddu i’ch amgylchiadau a’ch diddordebau proffesiynol chi. Bydd cyfle i chi ddefnyddio eich profiad o fyd gwaith yn ogystal ag ymchwil academaidd. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.

*Sylwch: Gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall o ganlyniad i ystyriaethau maint y garfan. 

Compulsory

  • Traethawd Hir, NEU Astudiaeth Achos Integredig, NEU Gynnig Datblygiad Busnes (60 credydau)
Rheolaeth Ariannol

(20 credydau)

Rheoli Marchnata

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol

(20 credydau)

Cynnig Datblygiad Busnes
Cyllid Corfforaethol

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Meini Prawf ar gyfer Mynediad

    Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

    Ymgeiswyr Cartref:

    Fel arfer, meddu ar o leiaf gradd 2:2 yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol a gydnabyddir gan UK ENIC neu brofiad gwaith o bum mlynedd ar lefel rheolaeth uwch yn lle gradd.

    Ymgeiswyr Rhyngwladol:

    Fel arfer, meddu ar o leiaf gradd 2:2 yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol a gydnabyddir gan UK ENIC neu brofiad gwaith o bum mlynedd ar lefel rheolaeth uwch yn lle gradd.

    Fel arfer, hyfedredd Saesneg gyda sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu’n uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb sgôr o lai na 5.5 mewn unrhyw ran o’r prawf.

  • Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy gyfrwng gwaith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar waith personol, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddiad o astudiaethau achos a’r prosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos penodol.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd cyflogadwyedd yn ddibynnol i raddau helaeth ar eich lleoliad rhyngwladol, diwydiant a strwythur gyrfa. Mae’r cyfleoedd a datblygiadau gyrfa posibl yn cynnwys swyddi rheoli mewn busnesau, rheoli adnoddau dynol a datblygu’r gweithlu rhyngwladol, cyd-destunau busnes rhyngwladol gan gynnwys entrepreneuriaeth busnes a datblygu rhanbarthol, addysg, datblygu’r gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau cyhoeddus ac mewn meysydd eraill.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau