Skip page header and navigation

Gwyddor Data a Dadansoddeg Busnes (Llawn amser) (MBA)

Birmingham
1 Flwyddyn Llawn amser

Mewn ymateb i’r galw gan y diwydiant, mae’r MBA hwn yn cyfuno astudiaeth sylfaenol o’r pynciau busnes craidd gyda sylw i wyddor data a dadansoddeg busnes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghyd â sgiliau rheoli ac arwain a fydd yn hanfodol i ddatblygiad eich gyrfa.
02
Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol sy’n dysgu ar sail arfer dda. Fe fyddan nhw’n eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Byddwch yn ennill sgiliau a gwybodaeth arbenigol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn cymdeithas fyd-eang sy’n gynyddol ddibynnol ar ddata.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio mewn ymateb i’r galw yn y farchnad am raddedigion sydd â sgiliau trosglwyddadwy. Mae hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â’r gallu i ymateb â her newid o fewn ecosystemau busnes, y datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial, a chronfeydd data mawr. Bydd rhan gyntaf y cwrs yn eich paratoi gyda gwybodaeth eang am feysydd gwahanol gan gynnwys marchnata, adnoddau dynol a rheolaeth strategol. Yna, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol a fydd yn eich cyflwyno i ystod o dechnoleg a chysyniadau newydd. 

Byddwch yn astudio theori, ond bydd sawl cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi eich hunan wedi’i ennill o’ch profiad ymarferol hefyd. Daw ein myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol ac felly mae’r MBA hwn yn un y gellir ei addasu er mwyn bodloni eich anghenion a’ch diddordebau chi, boed chi’n dod o gefndir mewn cwmni mawr neu o fusnes bach.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.

*Sylwch: Gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall o ganlyniad i ystyriaethau maint y garfan. 

Gorfodol

Rheolaeth Ariannol

(20 credydau)

Rheoli Marchnata

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol

(20 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir

(60 credydau)

Astudiaeth Achos Integredig

(60 credydau)

Cynnig Datblygiad Busnes

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol.

    Ymgeiswyr Cartref:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Ymgeiswyr Rhyngwladol:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Fel arfer, bydd angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn unrhyw ran o’r prawf.

  • Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy waith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar eich gwaith, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddiadau o astudiaethau achos yn ogystal â phrosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos penodol.

  • Ni fydd costau ychwanegol at ffioedd dysgu, ond dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi a phryd ysgafn neu eitemau eraill ar y campws.

    Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis gwario ar offer fel gliniaduron er mwyn cefnogi eu haddysg, ond nid yw hyn yn ofyniad o ran y rhaglen. Bydd unrhyw gostau y tu hwnt i ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig ag astudio neu fywyd myfyrwyr yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr ar adeg cofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at bobl sydd wedi’u cyflogi gan sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â’r sector busnesau bychain, ble mae busnes rhyngwladol yn dod yn fwyfwy pwysig a ble mae’n hanfodol i feddu ar amrywiaeth o sgiliau.

    Mae’r cwrs wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gwyddor data a dadansoddeg busnes yn y DU neu dramor. Gall arwain at gyfleoedd ym meysydd dadansoddi data, systemau a phrosesau, yn ogystal â datrysiadau creadigol a chynllunio mewn sefyllfaoedd real. Gall graddedigion weithio fel dadansoddwyr busnes, penseiri busnes, rheolwyr cynnyrch, dadansoddwyr systemau, dadansoddwyr data neu ymgynghorwyr rheoli, yn ogystal â dilyn llwybrau rheolaeth mwy cyffredinol. 

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau