Nod y cymhwyster hwn yw meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o sut orau i ddadansoddi yr anghenion dysgu, sut i fynd ati i feithrin talent yn ogystal â materion sy’n ymwneud ag adnoddau dynol a rheoli pobl. Bwriad y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i arwain ar lefel strategol a gweithredol o fewn eu sefydliad. Mae’n rhaglen yn addas i reolwyr neu bobl sy’n gweithio tuag at greu’r amgylchiadau priodol ar gyfer gweithgareddau pobl a fydd yn creu gwerth ychwanegol i’w sefydliadau.
Mae’r Diploma i Raddedigion a’r MA wedi’u hachredu gan CIPD. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Diploma PG (rhan 1 o’r MA) yn ennill statws Aelod Cyswllt lefel 7 o’r CIPD.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Er bod y Brifysgol wedi cynnig MA a’r Diploma i Raddedigion mewn Rheoli Adnoddau Dynol ers cryn amser bellach, mae’r cymwysterau hyn wedi’u diweddaru ers Medi 2021 er mwyn cydymffurfio â gofynion newydd y CIPD.
Mae’r Diploma i Raddedigion a’r MA yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gynnal trafodaethau â gwahanol sefydliadau ac â’u cyd-fyfyrwyr ar draws de Cymru ar bynciau sydd â pherthnasedd strategol i reoli pobl. Mae’r modiwlau hyn yn cael eu cyflwyno gan ddarlithwyr cymwysedig sydd â phrofiad sylweddol yn y maes, gan gynnwys cyfreithwyr cymwys sy’n arbenigwyr mewn materion cyflogaeth. Rydym wedi paratoi pob modiwl i gyd-fynd â Map Proffesiwn y CIPD, ac felly mae’r modiwlau yn darparu’r holl wybodaeth a’r ymddygiadau craidd sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen er mwyn arwain a rheoli Arfer Gorau yn llwyddiannus o fewn sefydliadau heddiw.
Mae dwy flynedd gyntaf y ddwy raglen (Diploma i Raddedigion ac MA) yr un fath. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau 8 modiwl gorfodol (rhan 1 o’r MA). Ar ddiwedd y ddwy flynedd, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ychwanegu at eu cymhwyster a chyflawni’r MA llawn, a hynny trwy ysgrifennu traethawd hir fydd yn 15,000 o eiriau.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer:
• Y rhai sy’n gweithio ym maes rheoli pobl yn strategol neu sy’n awyddus i wneud hynny.
• Y rhai sy’n dymuno meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r maes fel eu bod yn gallu arwain ym maes mabwysiadau prosesau pwrpasol ar gyfer pobl a fyddai’n ychwanegu gwerth o fewn eu sefydliadau.
Gorfodol
(15 credydau)
(15 credydau)
(15 credydau)
(15 credydau)
(15 credydau)
(15 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Accommodation
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod ag un neu fwy o’r canlynol:
1. Gradd anrhydedd neu gymhwyster ôl-raddedig, e.e. BA, MSc
2. Cymhwyster proffesiynol perthnasol, e.e. Cymhwyster canolradd CIPD, ILM, CIM
3. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni’r meini prawf uchod os bernir bod ganddyn nhw ddigon o brofiad proffesiynol neu brofiad o reoli. -
Does dim arholiadau. Bydd asesu’n cymryd lle drwy ysgrifennu adroddiadau, posteri academaidd, portffolios, arddangosiadau ymarferol, cyflwyniadau byr a chreu adnoddau dysgu ar gyfer rheolwyr.
-
Mae costau ychwanegol yn cynnwys y gost orfodol o ymaelodi â CIPD fel myfyriwr, a’r gost ddewisol o brynu gwerslyfrau.
Mae ymaelodi â’r CIPD fel myfyriwr yn costio £123 y flwyddyn, ynghyd â ffi ymuno o £40. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws CIPD Lefel 7 ac, yn amodol ar flwyddyn o brofiad, i wneud cais am Aelodaeth Siartredig o’r CIPD.