Skip page header and navigation

Arweinyddiaeth (Rhan amser) (PGCert)

Abertawe
1 Flwyddyn Rhan amser

Mae Arweinyddiaeth Effeithiol yn rhan hanfodol o sefydliadau cynaliadwy.

Mae’r rhaglen MA Arweinyddiaeth yn darparu addysg drawsnewidiol sy’n ysbrydoli, yn herio, yn cwestiynu ac yn siapio arweinwyr effeithiol. Mae’r dysgu’n cynnig heriau deallusol ac ymarferol sy’n ehangu datblygiad personol o fewn cymuned gydweithredol, adeiladol sy’n ceisio amrywiaeth o ddylanwadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Trwy astudio arweinyddiaeth, gall myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau y byddan nhw eu hangen er mwyn cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau, gan gynnwys Gofal Iechyd, Peirianneg, Manwerthu, Bancio, Lletygarwch a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gyda seminarau lle gall dysgwyr gysylltu ag arbenigwyr allanol, rydym yn galluogi mynediad at y gwaith ymchwil diweddaraf.  Byddwn hefyd yn disgwyl iddyn nhw feirniadu’r mewnbwn o ran ei ddefnyddioldeb o fewn eu harfer a’u cyd-destun eu hunain.

Mae’r rhaglen yn addas i’r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi uwch neu sy’n dymuno symud ymlaen i swydd lle byddan nhw’n arwain.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cewch ehangu eich gwybodaeth a chryfhau eich sgiliau arwain a fydd yn nodweddion hanfodol yn natblygiad eich gyrfa.
02
Darlithwyr sydd â phrofiad yn y diwydiant ac sy’n dysgu ar sail ymchwil.
03
Rhaglen yn un lle gallwch ymuno a gorffen yn ôl eich dymuniad, gan ganiatáu i chi ennill cymwysterau ôl-raddedig ar wahanol lefelau heb orfod ymrwymo i radd Meistr lawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r MA Arweinyddiaeth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill dealltwriaeth fanwl o arweinyddiaeth. Drwy gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol o arweinyddiaeth gydag ymgysylltiad ymarferol sy’n cynnwys arweiniad i arfer dda ym maes arweinyddiaeth. Dyma raglen sydd wedi mabwysiadu’r cysyniad o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Mae’r rhaglen wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a’u galluogi i ymgymryd â swyddi arweiniol mewn amrywiaeth o sectorau.

Gall myfyrwyr ennill cymhwyster MA, Diploma i Raddedigion neu Dystysgrif i Raddedigion.

Dewisol

Datblygu Pobl mewn Sefydliadau

(20 credydau)

Arweinwyr mewn Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Arfau Arweinyddiaeth

(20 credydau)

Themâu Cyfoes mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth

(20 credydau)

Arwain Newid Digidol a Strategol

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Accommodation

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gael sgôr IELTS Saesneg cyfartalog o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr yn is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Mae’r gofynion mynediad academaidd eraill yr un fath i bob myfyriwr (myfyrwyr cartref a rhyngwladol).

    Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth, cyn belled â’u bod yn meddu ar radd a/neu gymwysterau proffesiynol.  Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arwain, a phrofiad o reoli, a gallent gael eu derbyn ar y rhaglen Meistr yn ôl disgresiwn rheolwr y rhaglen.

    Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hŷn a dylent feddu ar un neu fwy o’r canlynol:

    1. Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gyfwerth.
    2. Cymhwyster proffesiynol
    3. Diplomâu/tystysgrifau PCYDDS
    4. Gellir derbyn ymgeiswyr 25 oed neu hŷn sydd ddim yn bodloni’r meini prawf uchod os bernir bod ganddynt ddigon o brofiad proffesiynol neu brofiad o reoli.
  • Cewch eich asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys gwaith cwrs, creu portffolio, a seminarau.

    Mae’r asesiadau yn cael eu cysylltu ag enghreifftiau o fyd diwydiant ac â gweithgareddau ymarferol. Maen nhw’n cynnwys gweithgareddau sy’n gwerthuso arweinwyr wrth eu gwaith.

    Bydd y myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r MA cyfan yn ysgrifennu traethawd hir 15,000 gair yn seiliedig ar ddarn o ymchwil annibynnol ar faes sy’n gysylltiedig ag arweinyddiaeth, ac sydd wedi’i ddewis ganddyn nhw mewn trafodaeth â darlithydd y modiwl.  Bydd goruchwylydd yn cael ei benodi ar gyfer pob myfyriwr er mwyn eu tywys drwy’r broses ymchwil ac ysgrifennu.

  • Rydym ni fel sefydliad yn awyddus i wella profiadau’n myfyrwyr lle bynnag y bo modd, ac o ganlyniad gall myfyrwyr ysgwyddo rhai costau ychwanegol wrth wneud gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth i’w haddysg.  Lle bo hynny’n bosibl, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl.

    Mae gan y Brifysgol lyfrgell ar-lein ardderchog lle cewch fynediad at ystod eang o adnoddau heb unrhyw gost ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd myfyrwyr y rhaglen yn datblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol sy’n ddeniadol i gyflogwyr o fewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol.

    Mae’r rhaglen a’i chynnwys yn canolbwyntio ar alwedigaeth, gan ddefnyddio astudiaethau achos o arweinwyr cyfredol.  Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i rannu eu profiadau eu hunain o arwain, ac i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau