Skip page header and navigation

Gradd Feistr mewn Gweinyddu Busnes (Llawn amser) (MBA)

Abertawe
18 Mis Llawn amser

Ers dros ugain mlynedd bellach, mae Ysgol Fusnes Abertawe wedi cyflwyno rhaglen Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd.

Dyma gymhwyster rheoli cyffredinol sydd wedi ennyn parch rhyngwladol. Cymhwyster sy’n gallu gwella sgiliau a gallu rheolwyr profiadol yn ogystal â rhoi cyfle i raddedigion newydd achub y blaen yn eu gyrfaoedd rheoli yn y dyfodol.

Mae llwybrau MBA (Rheoli Twristiaeth) a MBA (Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol) ar gael o fewn yr MBA hefyd.

Mae dulliau hyblyg a chyfoes y Drindod Dewi Sant o gyflwyno’r cymhwyster llwyddiannus hwn yn caniatáu i fyfyrwyr MBA ddewis a ydyn nhw am astudio ar y campws, ar-lein a/neu drwy ddulliau cyfunol (cymysgedd o fodiwlau ar y campws a rhai ar-lein).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn amser

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i ddatblygu'r wybodaeth a dysgu’r sgiliau ar gyfer arwain a rheoli allweddol y byddwch eu hangen er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa.
02
Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar a phrofiadol sy’n dysgu drwy enghreifftio arfer dda, gan eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu a ddaw’n rhwydwaith busnes gydol oes i chi.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen MBA yn cwmpasu’r cwricwlwm busnes/rheoli cyffredinol ac mae’n cynnig cyfle i chi arbenigo.

Gallwch ddewis dilyn llwybr Rheoli Twristiaeth neu Reoli Lletygarwch Rhyngwladol hefyd. 
Bydd pob myfyriwr yn cael eu hannog i arfer y cysyniadau y maen nhw’n eu dysgu, ac i gyfarwyddo a phatrymau damcaniaethol.

Bydd y cynnwys yn gwella gallu myfyrwyr i reoli ac i arwain sefydliadau’n effeithiol, a hynny trwy ddatblygu eich gallu ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o sgiliau, syniadau a damcaniaethau rheoli. Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n integreiddio gwaith prosiect ymarferol a thrylwyredd academaidd.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rheoli er mwyn cael cyfle i yrfa ryngwladol.

Mae cyfle o hyd i Brifysgol Cymru ddyfarnu’r rhaglen hon.

Bydd yr MBA yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio meysydd eang o fewn maes rheoli busnes a fydd yn gwella eu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael â materion byd-eang a materion strategol sy’n wynebu sefydliadau yn yr 21ain ganrif, yn ogystal â materion cyfoes mewn amrywiaeth eang o feysydd busnes gwahanol. Mae rheolaeth strategol, adnoddau dynol, rheolaeth ariannol a marchnata yn enghreifftiau o rai o’r meysydd y mae modiwlau’r rhaglen yn eu hastudio.

Gorfodol

Rheoli Pobl mewn Sefydliadau

(20 credydau)

Rheoli Newid Marchnata

(20 credydau)

Cyllid i Reolwyr Busnes

(20 credydau)

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Rheoli Busnes Strategol ac Ystwyth

(20 credydau)

Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir

(60 credydau)

Modiwl Astudio Annibynnol Rhyngwladol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae angen gallu yn y Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr islaw 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad.  Mae’r gofynion mynediad academaidd eraill yr un fath ar gyfer pob myfyriwr: (cartref, UE, rhyngwladol).

    Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth cyn belled â’u bod yn meddu ar radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arwain, a phrofiad o reoli, a byddan nhw’n cael eu cymeradwyo yn ôl disgresiwn cyfarwyddwr y rhaglen.

    Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hŷn a rhaid iddyn nhw fod ag un neu fwy o’r canlynol:

    • Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gymhwyster cyfatebol.
    • Cymhwyster proffesiynol.
    • Diplomâu/tystysgrifau’r Brifysgol mewn Rheoli Busnes.
    • Gall ymgeiswyr 25 oed neu hŷn sydd ddim yn bodloni’r meini prawf gael eu derbyn ar y cwrs os bernir bod eu profiad proffesiynol neu eu profiad o reoli yn briodol.

    Gellir ystyried eithrio rhai myfyrwyr rhag gorfod cwblhau rhai modiwlau a addysgir, ond bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud fesul achos ac yn unol â phroses achredu PCYDDS.

  • Caiff modiwlau eu hasesu gan waith cwrs. Gall hyn ei wneud mewn sawl ffordd gwahanol, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddi astudiaethau achos a’r traethawd hir. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr y rhaglen llawn-amser, neu’r rhai sydd heb gyflogaeth ar hyn o bryd, yn gallu seilio eu prosiectau ar gwmnïau o rwydwaith helaeth o gyflogwyr SBS er mwyn cael dewisiadau eraill ar gyfer aseiniadau sy’n seiliedig ar waith.

  • Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau ein myfyrwyr trwy’r adeg, ac o ganlyniad, gallent ysgwyddo costau ychwanegol o ganlyniad i weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at ei addysg. Lle bo’n bosibl, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl, gyda gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Bydd teithiau maes dewisol ar gael i fyfyrwyr. Bydd costau’r teithiau o fewn y DU a rhai rhyngwladol yn cael eu darparu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu’r gost bedair wythnos cyn i’r teithiau ddigwydd, a thri mis cyn y dyddiad gadael a chostau visa ar gyfer lleoliadau tramor.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi elwa ar y cymhwyster hwn i hybu eu gyrfa yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol/dielw, a hynny yn y DU a thramor.

    Hefyd, mae ein myfyrwyr llawn-amser hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen o ymweliadau sefydliadol, gweithdai a digwyddiadau DPP (mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig) sy’n darparu cyfle i ymgeisio ac i rwydweithio. Maen nhw hefyd yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith priodol ac i gynllunio a datblygu eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

    Mae gan y rhaglen ffocws alwedigaethol, ac mae’n defnyddio astudiaethau achos go iawn o sefydliadau sy’n gweithredu’n gyfredol. Rydym yn annog myfyrwyr i rannu eu profiad gwaith eu hunain ac i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau