Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Logisteg y Gadwyn Gyflenwi (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
4 blynedd
Lefel 3

Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i roi i unigolion y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau esblygol rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg. Ein nod yw meithrin cadwyni cyflenwi hyblyg, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.

Cynhelir darpariaeth y rhaglen ar-lein yn bennaf dros gyfnod o bedair blynedd, er y gall dysgu a phrofiad blaenorol leihau’r amser astudio gofynnol o bosibl. Drwy gydol y rhaglen, bydd prentisiaid yn cymryd rhan mewn aseiniadau a phrosiectau yn y gweithle sydd wedi’u teilwra i’w rolau penodol a’u cytuno gyda’u cyflogwr. Bydd y prosiectau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithrediadau cwmni’r cyflogwr.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi a’ch cyflogwr i bennu’r pwynt mynediad gorau ar gyfer pob prentis unigol yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad presennol. Ein nod yw sicrhau bod pob prentis yn cychwyn y rhaglen ar gam sy’n cyd-fynd â’u hyfforddiant blaenorol a’u galluoedd.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis, i’r cyflogwr neu ESFA.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Lluniwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i baratoi unigolion ar gyfer yr heriau hyn ac i sicrhau ein bod yn datblygu cadwyni cyflenwi ystwyth, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.

Compulsory

Cynllunio Busnes

(20 credydau)

Egwyddorion Dadansoddeg Data

(10 credydau)

Syniadaeth Ddarbodus

(10 credydau)

Rheolaeth Sefydliadol

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ac Ymchwil

(10 credydau)

Gwybodeg y Gadwyn Gyflenwi

(10 credydau)

Rheolaeth Cyllid

(10 credyd)

Compulsory

Cyflwyniad i Gaffael

(10 credydau)

Cynaliadwyedd

(10 credyd)

Gweithrediadau Warysau a Rhestrau Eiddo

(20 credyd)

Cynllunio Capasiti

(10 credyd)

Dadansoddi Data

(10 credyd)

Moeseg a’r Gyfraith

(10 credyd)

Rheoli newid

(10 credyd)

Compulsory

Prosiect Grŵp Cadwyn Gyflenwi a Logisteg

(20 credyd)

Modelu ac Efelychu

(10 credyd)

Strategaethau Caffael

(10 credyd)

Technoleg Logisteg

(10 credyd)

Gweithrediadau’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg

(20 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy

(10 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Byd-eang Strategol

(20 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Darbodus

(10 credyd)

Compulsory

Prosiect Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Gwendidau a Rheoli Risg

(20 credyd)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau