Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (BSc Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen hon yn gymhwyster cydnabyddedig ym maes iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn darparu rhaglen o astudiaethau blaengar sy’n berthnasol i yrfaoedd o fewn swyddogaethau cynradd gofal ym maes iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc sy’n cyfoethogi eich gallu i ymgymryd â grymoedd ymchwilio, adfyfyriol, dadansoddol a rhesymu mewn cyd-destun.

Ar y rhaglen hon, byddwch yn dysgu i ddeall y theorïau sy’n gysylltiedig â datblygiad a llesiant plant a phobl ifanc, ac i roi gwybodaeth ddamcaniaethol am ddatblygiad a llesiant ar waith i gyfoethogi gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o heriau cyfoes perthnasol i’r ddisgyblaeth sy’n wynebu unigolion, sefydliadau, cymunedau a chymdeithas, o bersbectif lleol, cenedlaethol a byd-eang. Byddwch yn codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r rôl mae Iechyd Cyhoeddus yn ei chwarae wrth ymateb i faterion cyfoes sy’n effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau a phoblogaethau.

Byddwn yn ffocysu ar ddatblygu eich sgiliau astudio annibynnol a dysgu gydol oes. Bydd hyn yn rhoi i chi sylfaen ar gyfer cwblhau eich rhaglen radd yn llwyddiannus, yn cefnogi eich cyfleoedd gwaith yn y dyfodol ac yn datblygu’r sgiliau a’r medrau sydd eu hangen ar gyfer gwydnwch gyrfaol a datblygiad proffesiynol yng nghyd-destun gwaith y dyfodol.

Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
3H6X
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi geisio cael y swydd a gyrfa rydych eu heisiau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ogystal â bod yn fan cychwyn ardderchog i’r rhai sy’n ansicr o’u nodau gwaith yn y sector iechyd a gofal plant a phobl ifanc, ond gall agor drysau ym myd gwaith sy’n para gydol eich gyrfa. Mae’n cynnig ystod eang o sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd yn cynnwys addysg, seicoleg, ymchwil ac iechyd a lles plant.

Mae rhaglenni’r Portffolio Iechyd wedi’u hintegreiddio’n bwrpasol i ganiatáu mynediad ac ymadawiad hyblyg rhwng llwybrau a chyrsiau. Ar ddiwedd pob blwyddyn gallwch symud ymlaen i wahanol raglen os bydd eich dewisiadau gyrfa neu gyfleoedd cyflogaeth yn newid.

Mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r radd hon i gael swyddi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae myfyrwyr blaenorol hefyd wedi defnyddio’r cwrs hwn fel platfform i astudiaethau pellach ym maes iechyd, gwaith cymdeithasol, seicoleg ac addysgu plant.

Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau a phobl allweddol o fewn y sector iechyd. Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd.

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Datblygiad a Llesiant Plant a Phobl Ifanc

(20 credydau)

Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Thegwch Digidol

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Iechyd, Llesiant a Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Diploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS.

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.

    Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

    Yn arbennig, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn rhyw ffordd yn barod

    Sylwch nad yw’r cwrs hwn yn cymryd lle’r cymhwyster Lefel 3 CCLD. Os ydy’ch swydd, rôl neu yrfa’n gofyn am y cymhwyster hwn, rydym yn argymell i chi ei wneud ar wahân.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau