Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llawn amser) (CertHE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn datblygu drwy’r amser, ac mae ein rhaglen TystAU wedi’i chynllunio i’ch helpu i gadw i fyny â’r newidiadau hyn. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag oedolion, plant, neu bobl ifanc, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau yn y sector. Mae ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r polisïau a’r arferion diweddaraf, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gofynion gwaith iechyd gofal cymdeithasol y presennol a’r dyfodol.

Mae’r TystAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn canolbwyntio ar adeiladu gweithlu medrus sy’n gallu cwrdd â nodau iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol. Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn ym meysydd craidd iechyd a gofal cymdeithasol ar y cwrs hwn. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ddarparu profiadau dysgu damcaniaethol ac ymarferol, gan eich helpu i ddatblygu meddwl beirniadol a sgiliau datrys problemau sy’n hanfodol ar gyfer y maes hwn.

Yn ogystal, gall y dystysgrif hon fod yn garreg gamu i astudiaethau pellach, megis symud ymlaen i astudio gradd BSc lawn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y dilyniant hwn yn dyfnhau eich arbenigedd ac yn gwella eich cyfleoedd gyrfa yn y sector. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HSC6
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn ymagwedd myfyrwyr-canolog, sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a damcaniaethol.  Mae ein rhaglen yn anelu at ddatblygu sgiliau adfyfyriol a dadansoddol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa deinameg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau allweddol presennol a phobl o fewn y sector iechyd.  Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth academaidd lefel uchel ar draws yr holl brifysgol i’ch helpu i gryfhau eich sgiliau academaidd. Mae’r cwrs yn darparu trosolwg o’r sector iechyd a gofal cyfunol ac yn cynnig cyfleoedd i chi ymuno â’r gweithlu mewn ystod o rolau. Mae ystod o oedrannau, profiadau a rolau gwaith presennol yn defnyddio’r cwrs hwn i uwchsgilio a symud ymlaen ym maes iechyd a gofal.

Yn y flwyddyn hon, byddwch yn archwilio sylfeini iechyd a gofal cymdeithasol, gan ffocysu ar gysyniadau allweddol, polisi a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arfer effeithiol.  Byddwch yn astudio cwnsela, cyfathrebu, a pherthynas therapiwtig, seicoleg mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac ymddygiad rheoli sefydliadol a digidol, gan eich helpu i gael sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.  

Cwnsela, Cyfathrebu a'r Berthynas Therapiwtig

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS. 

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol, trafodaethau beirniadaethau polisi a phortffolios proffesiynol. Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau