Sgiliau ar gyfer y Gweithle: Iechyd a Gofal Cymdeithasol (CertHE)
Ydych chi’n awyddus i gamu ymlaen yn eich gweithle? Datblygwch eich sgiliau a chychwyn ar eich gyrfa!
Gallech ddatblygu eich sgiliau, gwella eich hunanhyder ac ailddechrau ar eich gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg Uwch hwn wedi’i gynllunio i roi’r offer i chi roi eich sgiliau ar waith a’u trosglwyddo i’r gweithle. Bydd yn rhoi’r hyder i chi ragweld problemau a dod o hyd i atebion; gweithio’n annibynnol a gyda phobl eraill; a chynllunio pethau cyn dechrau arni a chwblhau’r hyn rydych chi wedi’u dechrau. Y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hon?
Beth fyddwch yn dysgu?
Bydd y rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gwaith yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus a phreifat gyda ffocws ar ofal i oedolion a phlant, er enghraifft, mewn cartrefi preswyl neu gartrefi nyrsio, yn y cartref, mewn lleoliadau iechyd clinigol a chanolfannau gofal dydd. Bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â rolau fel Cynorthwywyr Gofal, Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd, Gweithwyr Cymunedol a Chynorthwywyr Addysgu.
Mae’r rhaglen wedi’i chreu’n benodol, o ran ei chynnwys a’i darpariaeth hyblyg, i roi’r hyder i chi ragweld problemau a dod o hyd i atebion, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill, i gynllunio pethau cyn dechrau arni a chwblhau’r hyn rydych wedi’u dechrau, yn fyr, i ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt!
Mae’r addysgu yn seiliedig ar brosiectau, gan gysylltu theori ag ymarfer a sicrhau bod pob modiwl yn cael ei roi yn ei gyd-destun mewn sefyllfaoedd a heriau go iawn yn y gweithle.
Mae’r dosbarthiadau’n cael eu cynnal 2 ddiwrnod yr wythnos.
-
Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
(20 credydau)
Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol(20 credydau)
Sgiliau Digidol a Dulliau Ymchwil(20 credydau)
Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol(20 credydau)
Cyflwyniad i Iechyd y Cyhoedd(20 credydau)
Datblygiad Proffesiynol o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol(20 credydau)
Our People
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llundain
Fel prif ddinas, mae gan Lundain gymaint o amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr fydd yn addas ar eich cyfer chi ac yn yr ardal lle’r hoffech chi fyw yn Llundain. Mae ein tîm llety wrth law ac ar gael i’ch arwain trwy eich opsiynau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref.
Rhaid gwneud ceisiadau am le ar ein cyrsiau israddedig llawn amser yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswy
-
Ceir amrywiaeth o asesiadau gan gynnwys cyflwyniadau, prosiectau, adroddiadau a blogiau. Does dim arholiadau.
-
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.
-
You may be eligible for funding to help support your study. To find out about scholarships, bursaries and other available funding opportunities, please visit our Bursaries and Scholarships section.
-
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.
Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.