Skip page header and navigation

Rheolaeth Iechyd a Gofal (Rhan amser) (DipAU)

Abertawe
4 Blynedd Rhan amser
80 o Bwyntiau UCAS

Prif nod y rhaglen hon yw eich galluogi i ymuno â’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymdrechu i hyfforddi a datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu bodloni amcanion strategol y llywodraeth a bod yn barod ar gyfer gyrfa gydol oes yn y sector iechyd a gofal.

Mae’r ddisgyblaeth Iechyd a Gofal Digidol wedi ymateb i newid sylweddol o ran cyd-destun a strategaeth yn y maes trwy ddiweddaru rhaglenni i ymgorffori eich opsiynau yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol sy’n esblygu’n gyflym.

Cewch gymhwyster addysg uwch sy’n gysylltiedig â rheolaeth o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, trwy archwilio’n gynyddol bynciau sy’n berthnasol i yrfaoedd ym mhrif swyddogaethau rheolaeth.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle ar gyfer datblygiad personol ac academaidd, gan barchu ac adeiladu ar astudiaeth neu brofiad galwedigaethol perthnasol blaenorol. Ein nod yw cyfoethogi eich gallu i arfer grymoedd ymchwiliol, adfyfyriol, dadansoddol a rhesymu mewn cyd-destun ac i roi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau i ymestyn eich astudiaethau a’ch hyfforddiant ar ôl i chi raddio.

Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Cartref: 240 o gredydau am £35 fesul credyd. 

Rhyngwladol: 240 o gredydau am £99 fesul credyd.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y rhaglen hon yw datblygu gallu myfyrwyr i ddefnyddio’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc ac o anghenion darparu’r gwasanaethau er mwyn cyfrannu at wella, monitro a dadansoddi’r sector.
Mae’n canolbwyntio ar wella sgiliau deallusol myfyrwyr i safon lefel pedwar, gan gynnwys gwerthuso beirniadol, dadansoddi, datrys problemau a myfyrio. Nod arall yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle trwy feithrin a gwella sgiliau trosglwyddadwy sy’n ymwneud â chyfathrebu, gwneud penderfyniadau, ymchwilio, dehongli, gwerthuso beirniadol, defnyddio theori mewn arfer, gan gynnwys cychwyn a chynnal prosiectau, ymysg eraill.

Mae’r rhaglen hefyd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr drwy eu paratoi ar gyfer gyrfa neu ddatblygiad gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a hynny drwy ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd i’w defnyddio mewn cyd-destunau sy’n berthnasol i’w galwedigaeth.

Cwnsela, Cyfathrebu a'r Berthynas Therapiwtig

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Arwain a Rheoli Timau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Economeg Iechyd

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 120 o bwyntiau UCAS.

  • Mae’r asesiadau; traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.  Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau