Skip page header and navigation

Ymarfer Gofal Iechyd (Llawn amser) (DipAU)

Caerfyrddin
2 Flwyddyn Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Diploma Addysg Uwch (TystAU) mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn gwrs sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd.  Mae’r rhaglen hon yn darparu cymhwyster cydnabyddedig ar lefel pump, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer amrywiaeth o rolau gofal iechyd. 

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar gyflwyno gofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth effeithiol mewn lleoliadau gofal iechyd gwahanol.  Mae’r cwricwlwm yn ymdrin ag agweddau allweddol gofal iechyd, gan gynnwys gweithio integredig, arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygiad proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio cysyniadau biolegol, cymdeithasol a seicolegol a damcaniaethau sy’n sail i ymarfer gofal iechyd. 

Mae’r TystAU mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am wella eu cymwysterau cyn gwneud cais am radd mewn gofal iechyd.  Mae’r cwrs hwn yn cynyddu’ch siawns o gael eich derbyn i’ch rhaglen radd ddewisol.  Byddwch yn parhau i wneud cais am eich gradd ddewisol tra byddwch yn astudio gyda ni, a gallwch adael ein cwrs ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn ar ôl sicrhau eich lle mewn rhaglen radd. 

Ymunwch â ni yn PCYDDS a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa werthfawr ym maes gofal iechyd. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HCP6
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyflogadwyedd wrth wraidd ein rhaglen, o ystyried ein ffocws ar ddatblygu ymarferwyr gofal iechyd tosturiol ac arloesol.
02
Mae'r strategaeth dysgu ac addysgu ar gyfer y rhaglen yn un sy'n cael ei llywio gan waith ymchwil ac wedi'i seilio ar ymarfer ac mae wedi'i mapio i ystod o gymwyseddau a sgiliau proffesiynol perthnasol.
03
Mae gan yr holl staff addysgu gysylltiadau agos gyda diwydiant, maent yn neu wedi bod yn ymarferwyr wrth eu gwaith a/neu yn meddu ar ddyfarniadau cyrff proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol mewn anatomeg, ffisioleg, iechyd a llesiant, a chyd-destun iechyd gofal yng Nghymru. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau personol, academaidd a phroffesiynol tra’n archwilio gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a hanfodion gofal iechyd a chymdeithasol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn anatomeg ddynol, iechyd a llesiant, a gofal iechyd yng Nghymru. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau academaidd, proffesiynol a phersonol hanfodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gorfodol 

Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg

(20 Credydau)

Byw’n dda: Ymagwedd gydol oes at Iechyd a Llesiant

(20 Credydau)

Datblygiad Personol, Academaidd a Phroffesiynol

(20 Credydau)

Arfer Gofal Iechyd yng Nghymru: Iaith a Diwylliant

(20 Credydau)

Arfer Proffesiynol: Dull sy’n canolbwyntio ar Unigolion

(20 Credydau)

Deall Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 Credydau)

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg uwch, yn archwilio arweinyddiaeth mewn gofal iechyd, ac yn ymgysylltu â materion cyfoes ym maes iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil ac yn dysgu cymhwyso ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd a llesiant o fewn y cyd-destun Cymreig.

Gorfodol 

Anatomeg a Ffisioleg Uwch

(20 Credydau)

Rheolaeth ac Arweinyddiaeth mewn Lleoliadau Gofal Iechyd

(20 Credydau)

Arfer Gofal Iechyd yng Nghymru: Pobl a Pholisi

(20 Credydau)

Dulliau Ymchwil ac Arfer seiliedig ar Dystiolaeth

(20 Credits)

Materion Cyfoes mewn Iechyd Meddwl

(20 Credits)

Hyrwyddo Iechyd a Llesiant

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.

    Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.

    • Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
    • Os ydych chi’n siarad Cymraeg
    • Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
    • Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
    • Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.

    Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion.

  • Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.

    Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.

    Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.

    • Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
    • Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
    • Cyflwyniadau
    • Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
    • Prosiectau ymchwil
    • Blogiau adfyfyriol
    • Mentora gan gymheiriaid
    • Beirniadaeth fideo
    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Profiad gwaith/lleoliadau.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.

    Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.

    I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau