Skip page header and navigation

Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Rhan amser

Y cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae’r cwrs ôl-raddedig hwn yn gwella sgiliau staff sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio yn nhirwedd ddigidol y ddarpariaeth iechyd a gofal.

Datblygwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad ag Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) a gweithwyr proffesiynol GIG Cymru. Partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw WIDI. Mae’r bartneriaeth hon yn sbardun allweddol ar gyfer gwella’r gweithlu digidol ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
I ddatblygu eich gyrfa ym maes Iechyd Digidol.
02
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith bob dydd.
03
Wedi’i greu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae’r cwrs hwn yn rhoi cyd-destun y ‘byd go iawn’ i’ch astudiaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r Rhaglen Sgiliau Digidol yn ymdrin â phob maes pwnc sy’n ymwneud ag iechyd a’r maes digidol. Mae’r cwrs hwn yn archwilio pynciau sy’n ymwneud â’r rôl y mae technoleg a data yn eu chwarae wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol modern.

Mae’r cynnwys yn galluogi myfyrwyr i ddysgu ar lefel ymarferol ac academaidd o ran yr hyn y mae iechyd a gofal digidol yn ei olygu o safbwynt Cymreig ac yn rhyngwladol.

Mae’r cwrs hwn yn defnyddio dull cyfunol o ddysgu sy’n caniatáu hyblygrwydd i’n dysgwyr er mwyn cael cydbwysedd rhwng eu hastudiaethau a’u swyddi llawn amser

Mae’r cwrs wedi’i anelu at unigolion, sy’n gweithio mewn lleoliad Iechyd neu Ofal Cymdeithasol ar hyn o bryd, ac sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth ac archwilio gyrfa ym maes Iechyd a Digidol. 

Trawsnewid Gwasanaeth trwy Bobl

(20 credydau)

Gwneud Penderfyniadau mewn Lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Rheoli Strategaeth Ddigidol er mwyn Gwella Iechyd a Gofal

(20 credydau)

Cyflwyniad i Systemau Gwybodaeth a Thechnoleg Gwybodaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Rheoli Rhaglen, Prosiect a Newid mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Meddu ar o leiaf gradd anrhydedd 2:2 neu gymhwyster proffesiynol gan sefydliad cydnabyddedig ym Mhrydain neu dramor, neu gymhwysedd sefydliadol priodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol digidol.

    Mae angen cyfweliad fel rhan o’r broses recriwtio.

    Rhaid i ymgeiswyr gael eu cyflogi mewn lleoliad priodol er mwyn gallu defnyddio cyd-destun proffesiynol wrth ddysgu.

  • Mae modiwlau yn cael eu hasesu trwy waith cwrs, ac mae Blwyddyn 3 yn cynnwys y prosiect terfynol a’r traethawd hir. Mae’n cael ei argymell felly, bod myfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais y tu allan i leoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried eu gallu i wneud yr asesiadau hyn sy’n seiliedig ar waith a’r traethawd hir terfynol.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ffocws y rhaglen hon yn seiliedig ar ddiwydiant ac felly bydd myfyrwyr sy’n llwyddo i ennill cymwysterau yn y pwnc yn gwella eu rhagolygon gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol Digidol.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau