Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llawn amser) (DipAU)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae maes iechyd a gofal cymdeithasol yn newid o hyd. Mae ein rhaglen DipAU wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newidiadau hyn a’ch paratoi ar gyfer ystod o gyfleoedd gwaith. P’un a ydych am weithio gydag oedolion, plant neu bobl ifanc, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant.

Nod y DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw adeiladu gweithlu medrus sy’n gallu cyflawni amcanion cenedlaethol, digidol a gofal cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gref i chi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gyfuno theori ac ymarfer i’ch helpu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau.

Byddwch yn defnyddio eich galluoedd ymchwilio, myfyrio, dadansoddi a rhesymu yn eu cyd-destun, a byddwch yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau i ymestyn eich astudiaethau a’ch hyfforddiant ar ôl graddio.

Gall cwblhau’r DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol arwain at amryw o gyfleoedd gwaith, fel Gweithiwr Cymorth Gofal, Cynghorydd Iechyd, Swyddog Cymorth Cymunedol neu Weithiwr Ieuenctid, i enwi ond rhai. Mae’r diploma hwn hefyd yn gam tuag at addysg bellach, fel symud ymlaen i wneud gradd BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gall hyn ddyfnhau eich gwybodaeth a gwella eich rhagolygon gyrfa.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HSC5
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn ymagwedd myfyrwyr-canolog, sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a damcaniaethol.  Mae ein rhaglen yn anelu at ddatblygu sgiliau adfyfyriol a dadansoddol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa deinameg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau allweddol presennol a phobl o fewn y sector iechyd.  Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth academaidd lefel uchel ar draws yr holl brifysgol i’ch helpu i gryfhau eich sgiliau academaidd.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini iechyd a gofal cymdeithasol, gan ffocysu ar gysyniadau allweddol, polisi a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arfer effeithiol.  Byddwch yn astudio cwnsela, cyfathrebu, a pherthynas therapiwtig, seicoleg mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac ymddygiad rheoli sefydliadol a digidol, gan eich helpu i gael sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.  

Cwnsela, Cyfathrebu a'r Berthynas Therapiwtig

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladau ar eich gwybodaeth gyda phynciau uwch mewn hyrwyddo iechyd, iechyd y cyhoedd ac arferion y sector gofal cymdeithasol. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi drwy ddulliau ymchwil ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a dysgu am ffisioleg yn ogystal â diogelu a chefnogi teuluoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.  

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Diogelu a Chefnogi Teuluoedd ym maes Iechyd a Gofal

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ffisioleg

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil annibynnol

(20 Credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS. 

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol, trafodaethau beirniadaethau polisi a phortffolios proffesiynol. Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau