Skip page header and navigation

Rheolaeth Iechyd a Gofal (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Nod ein rhaglen radd BSc Rheoli Iechyd a Gofal yw eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.  Ein nod yw datblygu gweithlu a all fodloni amcanion strategaethol y llywodraeth ac sy’n barod ar gyfer gyrfa gydol oes yn y sector iechyd a gofal. 

Mae’r ddisgyblaeth Iechyd a Gofal Digidol yn datblygu’n gyflym. Rydym wedi diweddaru ein rhaglen i gynnwys elfennau newydd o bolisi a sgiliau i’ch helpu i liwio’r amgylchedd hwn sy’n datblygu’n gyflym.  Mae’n sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i ymdopi â’r heriau diweddaraf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Fel myfyriwr, byddwch yn ennill cymhwyster addysg uwch yn ffocysu ar reoli o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae’r cwrs yn archwilio pynciau sy’n berthnasol i yrfaoedd ym mhrif swyddogaethau rheoli, megis  rheoli gofal iechyd ac arweinyddiaeth mewn gofal iechyd. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd am ddatblygiad personol ac academaidd.  Mae ein rhaglen yn gwerthfawrogi eich astudiaethau perthnasol blaenorol neu’ch profiad galwedigaethol, gan eich helpu i adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod.   Ein nod yw gwella eich pwerau ymchwilio, adfyfyrio, dadansoddi a rhesymu yn eu cyd-destun, gan roi’r sgiliau i chi wneud penderfyniadau moesegol a deall strategaethau gofal iechyd.  

Ar ôl graddio, bydd gennych y datblygiad gofal iechyd proffesiynol sydd ei angen i weithio mewn rolau amrywiol, gan gynnwys rolau rheoli yng ngofal iechyd.  Mae’r cwrs yn ymdrin â phynciau gofal iechyd modern megis dadansoddeg iechyd ac arweinyddiaeth iechyd digidol, gan eich paratoi ar gyfer datblygiad proffesiynol yng ngofal iechyd.

Mae ein rhaglen yn pwysleisio arfer gofal iechyd cynhwysol ac yn addas ar gyfer  cyd-destunau iechyd amrywiol. Byddwch yn dysgu am reoli cyfleusterau gofal iechyd a gwelliannau ar gyfer cyflenwi gofal iechyd.  Rydym yn hefyd yn edrych ar anghenion cleifion sy’n esblygu ac effaith technolegau gofal iechyd newydd ar y diwydiant.  

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn ymgysylltu ag astudiaethau achos gofal iechyd y byd go iawn, mae’r profiad ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn deall effaith eich gwaith ar gleifion ac yn gallu arwain y gwaith o drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd. 

Mae ein cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am ddod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus ac yn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn disgyblaethau gofal iechyd amrywiol.  Mae ein rhaglen nid yn unig yn eich paratoi ar gyfer heriau heddiw, ond mae hefyd yn eich rhoi ar lwybr ar gyfer datblygiad proffesiynol ym maes deinameg rheoli iechyd a gofal.

Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HCM1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu yn pwysleisio profiad ymarferol, rhagoriaeth academaidd a thwf personol. Rydym yn canolbwyntio ar roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid yn barhaus, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn rheoli gofal iechyd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn rheoli iechyd a gofal.  Mae meysydd allweddol yn cynnwys deall y cwnsela, y cyfathrebu a’r berthynas therapiwtig, gan archwilio strategaethau gofal iechyd sylfaenol, a dysgu am reoli, ymddygiad sefydliadol a newid digidol, gan ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol hefyd.  

Cwnsela, Cyfathrebu a'r Berthynas Therapiwtig

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich gwybodaeth mewn rheoli’r sector gofal iechyd ac arweinyddiaeth iechyd digidol.  Byddwch yn astudio egwyddorion ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan eich paratoi ar gyfer rolau rheoli mewn gofal iechyd.  Yn ogystal, mae’r cwricwlwm yn cynnwys economeg iechyd, gan fynd i’r afael ag anghenion cleifion sy’n esblygu. 

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Arwain a Rheoli Timau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Economeg Iechyd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil annibynnol

(20 Credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch megis iechyd, lles a datblygiad cynaliadwy.  Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol mewn gofal iechyd, megis hwyluso newid a rheoli ansawdd, gan roi profiad ymarferol i chi drwy astudiaethau achos gofal iechyd go iawn.  Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa gydol oes yn y sector iechyd a gofal. 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Iechyd, Llesiant a Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

Hwyluso Newid a Rheoli Ansawdd

(20 credydau)

Hyfforddi, Mentora a Gwaith Tîm mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Trawsnewid Digidol yn y Galwedigaethau Iechyd a Gofal

(20 Credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 120 o bwyntiau UCAS.

  • Mae’r asesiadau; traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.  Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau