Skip page header and navigation

Rheolaeth Iechyd a Gofal (Llawn amser) (CertHE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae rhaglen TystAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa werthfawr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.  Ein nod yw datblygu gweithlu sy’n barod i gwrdd â heriau’r diwydiant a chefnogi nodau’r strategol a’r amcanion a osodir gan y llywodraeth.

Wrth i faes iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu, megis y diwydiant iechyd a gofal digidol, mae angen am weithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a sgiliau cyfredol yn dod yn fwyfwy pwysig.  Mae ein rhaglen yn cynnwys y polisïau a’r arferion diweddaraf er mwyn sicrhau eich bod yn barod i ffynnu yn yr amgylchedd deinameg hwn. 

Mae’r cwrs yn darparu cyfle gwerthfawr i dwf personol ac academaidd. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd â phrofiad gwaith perthnasol neu astudiaethau blaenorol yn y maes ac yn dymuno adeiladu ar y sylfaen honno. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich addysg mewn ffordd sy’n parchu eich cefndir a’ch profiadau.  Yn ogystal, mae’r holl fodylau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau hygyrchedd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 

Drwy gwblhau’r TystAU, byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gael effaith gadarnhaol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae’n cynnig cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn academaidd gan barchu ac adeiladu ar astudiaethau blaenorol neu brofiad galwedigaethol. Yn ogystal, rydym yn cynnig pob modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HCM6
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith ymchwil neu astudiaeth bellach y tu hwnt i lefel 4 ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu yn pwysleisio profiad ymarferol, rhagoriaeth academaidd a thwf personol. Rydym yn canolbwyntio ar roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid yn barhaus, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn rheoli gofal iechyd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn rheoli iechyd a gofal.  Mae meysydd allweddol yn cynnwys deall y cwnsela, y cyfathrebu a’r berthynas therapiwtig, gan archwilio strategaethau gofal iechyd sylfaenol, a dysgu am reoli, ymddygiad sefydliadol a newid digidol, gan ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol hefyd.  

Cwnsela, Cyfathrebu a'r Berthynas Therapiwtig

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 120 o bwyntiau UCAS.

  • Mae’r asesiadau; traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.  Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau