Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (Llawn amser) (CertHE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi eisiau helpu plant a phobl ifanc i fyw bywydau iachach, hapusach? Mae ein Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi wneud hynny.  Mae’r cwrs yn gymhwyster cydnabyddedig, sy’n agor llwybrau gyrfa cyffrous mewn iechyd, gofal ac addysg. 

Rydym yn darparu astudiaethau blaengar sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn swyddogaethau sylfaenol gofal o fewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc sy’n gwella eich gallu i ddefnyddio pwerau ymchwil, myfyrio, dadansoddi a rhesymu yn eu cyd-destun. Byddwch yn dysgu am y syniadau a’r arferion allweddol sy’n helpu plant a phobl ifanc i dyfu a ffynnu.  Byddwch yn astudio damcaniaethau pwysig am eu datblygiad a’u lles, a dysgu sut i ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a chael effaith gadarnhaol.

Yn ogystal, byddwch yn archwilio materion cyfoes sy’n effeithio ar unigolion, sefydliadau, a chymunedau yn lleol ac yn fyd-eang.  Bydd hyn eich helpu i ddeall rôl Iechyd Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn a gwella iechyd a lles poblogaethau gwahanol. 

Mae ein cwrs yn ffocysu ar eich helpu i ddod yn ddysgwr annibynnol a datblygu sgiliau a fydd yn para oes.  Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich astudiaethau a byddant hefyd yn cefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.  Byddwch yn adeiladau sylfaen gref ar gyfer cyflogadwyedd, gan ddatblygu’r galluoedd sydd eu hangen i addasu a thyfu yn eich bywyd proffesiynol. 

Drwy ddewis TystAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc, byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu gefnogol sydd wedi ymrwymo i’ch helpu i lwyddo.  P’un a ydych yn dechrau ar eich gyrfa neu’n chwilio i wella eich rôl bresennol, bydd y rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn. 

Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i astudio’r holl fodylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HCY6
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi geisio cael y swydd a gyrfa rydych eu heisiau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn seiliedig ar gyfuniad o theori ac ymarfer, gan sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu meddwl beirniadol, ymarfer adfyfyriol, a chymhwysedd proffesiynol. 

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfaeni ddatblygiad a lles plant. Byddwch yn dysgu am egwyddorion allweddol gofal iechyd a chymdeithasol, gan gynnwys dulliau plentyn-ganolog a thechnegau datrys problemau effeithiol.  Mae’r flwyddyn hon yn ffocysu ar Gydraddoldeb , cynhwysiant a thegwch digidol yn ogystal â rheoli, ymddygiad sefydliadol a newid digidol.

Datblygiad a Llesiant Plant a Phobl Ifanc

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Thegwch Digidol

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

    I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Diploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

    I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS.

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.

    Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

    Yn arbennig, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn rhyw ffordd yn barod

    Sylwch nad yw’r cwrs hwn yn cymryd lle’r cymhwyster Lefel 3 CCLD. Os ydy’ch swydd, rôl neu yrfa’n gofyn am y cymhwyster hwn, rydym yn argymell i chi ei wneud ar wahân.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau