Skip page header and navigation

Lechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith (Llawn amser) (MSc)

Birmingham
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cwrs Meistr hwn yn adlewyrchu’r angen i drawsnewid gofal cymdeithasol ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio a mynd i’r afael â phroblemau cyfredol iechyd y cyhoedd megis clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw, lles meddyliol, a chyflyrau mwy hirdymor. Mae’r galw a’r pwysau cynyddol ar y system yn galw am ddefnyddio adnoddau’n effeithlon ac effeithiol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r rhaglen MSc Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith yn radd eang, seiliedig ar y gwyddorau cymdeithasol, ar gyfer pobl sy'n gweithio neu'n bwriadu gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar feysydd rheoli ac ymarfer.
02
Ei nod yw ymdrin â phob agwedd allweddol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, hybu iechyd, polisi, ac agweddau moesegol ar ofal, yn ogystal â thechnolegau modern a chyfraniadau deallusrwydd artiffisial i drefnu a rheoli'r system ofal.
03
Ffocws clir y rhaglen hon yw datblygu gallu’r myfyrwyr i ddefnyddio tystiolaeth i lywio eu penderfyniadau, deall a dadansoddi materion hanfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a datblygu ffyrdd o ddelio â nhw.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae strategaethau addysgu a dysgu’r rhaglen wedi’u cynllunio er mwyn ysgogi diddordeb, sgiliau a gwybodaeth y myfyriwr mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd hefyd yn cyflwyno her ddeallusol ar lefel ôl-raddedig gyda’r nod cyffredinol o sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n well ar gyfer cyflogaeth a datblygiad gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y dulliau sy’n seiliedig ar ymarfer, astudiaethau achos a phortffolios, gweithdai, seminarau, tiwtorialau, aseiniadau, yn helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu harfer presennol a’i ddilysu yn ogystal â datblygu eu sylfaen wybodaeth. 

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio gyda phwyslais cryf ar gyflogadwyedd. Mae’r tîm addysgu’n cynnwys staff y brifysgol, yn ogystal ag arbenigwyr gwadd o’r proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol a siaradwyr gwadd sy’n gweithio yn y maes. 

Gorfodol

Epidemioleg Gymdeithasol a Datblygiad Iechyd y Cyhoedd

(20 credydau)

Arweinyddiaeth a Threfniadaeth System Gofal Iechyd

(20 credydau)

Gofal Cymunedol a Rheoli Cyflyrau Hirdymor

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Arfer

(20 credydau)

Traethawd Hir Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dewisol

Integreiddio Gwasanaethau a Gweithio mewn Partneriaeth

(20 credydau)

Sicrhau Ansawdd a Gwella Gwasanaethau

(20 credydau)

Iechyd y Boblogaeth a Hyrwyddo Iechyd Digidol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Meddu ar o leiaf gradd anrhydedd 2:2 neu gymhwyster proffesiynol gan sefydliad cydnabyddedig ym Mhrydain neu dramor, neu gymhwysedd sefydliadol priodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Bydd amrywiaeth o asesiadau yn cael eu defnyddio i herio myfyrwyr. Mae ffocws academaidd cryf i’r rhaglen a hynny ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol.

  • Nid yw’r costau ychwanegol yn orfodol.

  • Ewch i Cyllid ar gyfer Astudiaethau Ôl-raddedig i gael gwybodaeth am gymorth ariannol.

  • Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i hwyluso’ch gyrfa a chynyddu eich arbenigedd ym maes iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol. Mae cyngor a chymorth ar-lein ar gael gan Wasanaeth Gyrfaoedd PCYDDS yn ogystal ag oddi wrth MyCareer.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau