Skip page header and navigation

Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen radd hon wedi’i lunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb brwd mewn maeth ac iechyd.

Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yw un o brif ffocysau ein rhaglen. Fodd bynnag, byddwch hefyd yn datblygu set sgiliau eang, gwerthfawr sy’n berthnasol a throsglwyddadwy i nifer o ddiwydiannau. Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol sy’n ymwneud ag iechyd a maeth, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol megis arweinyddiaeth, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Mae’r rhaglen hon yn ymrwymo i roi i chi’r paratoad gorau un ar gyfer byd gwaith. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref, ac fe’ch anogir i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd.

Yn rhan o gynnig ehangach y campws, cewch gyfleoedd i gasglu dyfarniadau allanol, fel y cymwysterau hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol a chymorth cyntaf. Hefyd, bydd cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o weithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, sy’n berthnasol i broblemau ac achosion yn y byd go iawn. Mae gan y rhaglen labordy maeth pwrpasol lle gallwch gyrchu adnoddau maetheg-benodol a defnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol.

Bydd ystod y dulliau’n cynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau (wedi’u gweld, heb eu gweld, gwaith cwrs), astudiaethau achos, asesiad cymheiriaid, adroddiadau profiad gwaith yn ogystal â gwaith seiliedig ar brosiect.

Mae’r rhaglen wedi cael ei hachredu’n allanol gyda’r Gymdeithas Maeth (AfN). Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i gael statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig, gan ganiatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau, ‘A. Nutr.’ ar ôl eich enw.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
LB54
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
Association for Nutrition Accredited Programme  Accreditation No.AX307

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae modylau ymarferol yn caniatáu i chi gael profiad o weithio yn y gymuned (e.e. hybu iechyd ar waith).
02
Mae myfyrwyr yn gymwys i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio.
03
Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Caiff pwysigrwydd cynnal ffordd o fyw iach ar gyfer llesiant yr unigolyn ei archwilio yn y rhaglen radd hon.

Byddwch yn dysgu sut y mae maeth ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff ac yn effeithio ar iechyd a llesiant yr unigolyn. Yn ogystal â hyn, byddwch yn archwilio’r ffactorau seicolegol a chymdeithasegol sy’n gallu dylanwadu ar ymddygiad cysylltiedig ag iechyd.

Mae’r cwrs yn cynnwys modylau sy’n caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth a chymhwysiad strategaethau hyrwyddo iechyd cyfredol.

Cewch gyfle i ddefnyddio offer y labordy i gael profiad ymarferol o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol, ac o asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Gwyddor Maetheg

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Iechyd

(20 credydau)

Dewisol

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Gorfodol 

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Dadansoddiad Dietegol

(20 credydau)

Hyrwyddo Iechyd ar waith

(20 credydau)

Seicoleg Ymarfer Corff a Gweithgarwch Corfforol

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Dewisol

Darganfod Ffyrdd o Fyw Awyr Agored

(20 credydau)

Iechyd a Llesiant mewn Addysg

(20 credydau)

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad)

(20 credydau)

Gorfodol 

Maetheg Gymhwysol a Dadansoddi Dietegol

(20 credydau)

Maetheg Iechyd Cyhoeddus

(20 credydau)

Polisi Cyhoeddus a Strategaethau Iechyd

(20 credydau)

Safbwyntiau mewn Iechyd a Gweithgarwch Corfforol

(20 credydau)

Dewisol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Adolygu Llenyddiaeth mewn Iechyd, Gweithgaredd Corfforol a Maetheg

(20 credydau)

Ymchwil Sylfaenol mewn Iechyd, Gweithgaredd Corfforol a Maetheg

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel rheol, ar gyfer y rhaglen BSc (Anrh) Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw, dylai’r gofynion mynediad gynnwys TGAU (neu gyfwerth) gradd C ac uwch (lefel 4 ar y strwythur newydd) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg. Yn ogystal, rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr o leiaf un Safon Uwch, ‘Irish Leaving Certificate’, ‘Scottish Higher’, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddoniaeth addas. Fel arfer, y gofyniad mynediad lleiaf ar gyfer y rhaglen yw 96 o bwyntiau UCAS.

    Gall y gofynion mynediad academaidd a phroffesiynol ar gyfer ymgeiswyr dros 21 oed gymryd i ystyriaeth brofiad perthnasol a chymwysterau blaenorol cyfwerth. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs gallwn drefnu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr. Yn y cyfweliad, byddai eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

    Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, rhaid i’r gofynion mynediad fod yn lled gyfwerth â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eu derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad  Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg priodol ar gyfer rhaglen a Achrededir gan AfN, heb fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb yr un adran unigol yn llai na 6.0.

    Os nad oes gennych y cymwysterau hyn neu os nad ydych yn sicr am eich cymhwysedd, cysylltwch â’r Brifysgol drwy e-bostio registry@pcydds.ac.uk

  • The skills of being able to decipher health and nutrition related research and transfer this into ‘real world’ practical applications for individual and community health are developed and assessed over the three years of study. To achieve this, the strong academic focus of the degree is supported by practical modules in health promotion, dietary analysis and fitness and health assessments.

    Whilst on the course, students learn how to present a balanced evidenced argument through their formal written work, as well as via individual and group presentations. Within the final year, students will design and conduct their own research project or literature review in a specialist area of their choice.

    Specific types of assessments include; essays, laboratory reports, presentations (group and individual), practical tasks, examinations (seen and unseen papers).

    • £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
    • Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.

  • Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:

    • Swyddog Ymgysylltu 50+
    • Swyddog Llesiant Cymunedol
    • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
    • Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
    • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
    • Prif Swyddog Iechyd
    • Rheoli cyfleustra ymarfer corff
    • Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
    • Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)

    Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff. 

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau