Skip page header and navigation

Dr Dorian Gieseler Greenbaum BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Tiwtor Parhaol Rhan-amser

Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant


E-bost: d.greenbaum@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n addysgu ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Rwy’n diwtor arweiniol ar y cyd yn y modwl Cosmoleg, Hud a Dewiniaeth, ac yn diwtor ar y modwl Hanes Astroleg. Rydw i hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant, a myfyrwyr PhD.

Cefndir

  • Athro Saesneg yn Ysgol Ieithoedd Berlitz, 1971–1972
  • Cynorthwyydd Graddedig, Prifysgol Columbia, 1974–1975
  • Cyfansoddwr ac Awdur Geiriau, addasiad cerddorol o The Wolves of Willoughby Chase gan Joan Aiken, Childrens’ Theatre Workshop, Duxbury, MA, 1991
  • Athro – Diwylliannau Lladin, Groegaidd a Chlasurol, Waldorf School of Cape Cod, Bourne, MA, 1993 – 1999
  • Awdur, 1999-2002: Teachers’ Guides for The World and I; “The English Review” ar gyfer Newsweek Magazine; Golygydd, testunau Addysg ar gyfer y Gymdeithas Addysg Genedlaethol
  • Darlithydd Gwadd, Coleg Prifysgol Bath Spa, 2003–2006
  • Darlithydd Gwadd, Prifysgol Caint yng Nghaergaint, 2007
  • Tiwtor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 2010–presennol

Diddordebau Academaidd

Diddordebau academaidd mewn hanes, damcaniaeth ac arfer astroleg hynafol, gan ganolbwyntio ar ranbarth Môr y Canoldir o’r cyfnodau Ptolemaidd a Helenistaidd trwy Ddiwedd Cyfnod yr Hen Fyd; hefyd mewn hanes, damcaniaeth ac arfer astroleg Ewropeaidd yr Oesoedd Canol a’r Dadeni. 

Diddordebau mewn ffawd a dewiniaeth hynafol a chanoloesol, crefydd, athroniaeth a myth

Modylau a addysgir: Hanes Astroleg; Cosmoleg, Hud a Dewiniaeth

Goruchwyliwr Traethawd Hir MA ar gyfer Jose Luis Belmonte, John Booker, Mauro Fenu, Akindynos Kaniamos, Erica Letzerich, Iva Pellumbi, Jennifer Zahrt

Cynghorydd/Goruchwyliwr Traethawd Ymchwil PhD ar gyfer Susan Leybourne

Meysydd Ymchwil

Arbenigwr ar hanes, damcaniaeth, athroniaeth ac arfer astroleg hynafol, gan ganolbwyntio ar ranbarth Môr y Canoldir o’r cyfnodau Ptolemaidd a Helenistaidd trwy Ddiwedd Cyfnod yr Hen Fyd, ond hefyd yn cynnwys y Canol Oesoedd a’r Dadeni Ewropeaidd. Diddordebau ac arbenigedd mewn trosglwyddo damcaniaethau ac arferion mewn astroleg, meddygaeth, dewiniaeth a chysyniadau ffawd. Arbenigwr ar gysyniad y demon yn yr hen fyd; dewiniaeth, serol yn arbennig, yn yr Aifft, Mesopotamia, Groeg a Rhufain; seryddiaeth, astroleg a meddygaeth.

Arbenigedd

Mae Dorian Gieseler Greenbaum yn arbenigwr ar hanes, athroniaeth, damcaniaeth ac arfer astroleg hynafol, gan ganolbwyntio ar ranbarth Môr y Canoldir o’r cyfnodau Ptolemaidd a Helenistaidd trwy Ddiwedd Cyfnod yr Hen Fyd. Mae ganddi arbenigedd hefyd yng nghysyniad y demon yn yr hen fyd yn rhanbarth Môr y Canoldir, ac mewn dewiniaeth hynafol, yn enwedig mewn perthynas â diwylliannau Môr y Canoldir a meddygaeth hynafol. Mae hi’n diwtor ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Mae ei BA yn y Clasuron (cum laude a gydag anrhydedd yn y Clasuron) o Goleg Douglass, Prifysgol Rutgers. Mae ei MA mewn Hanes (Eifftoleg) o Brifysgol Columbia. Derbyniodd ei PhD mewn Astudiaethau Hanesyddol Cyfunol o Athrofa Warburg, Prifysgol Llundain yn 2009, o dan oruchwyliaeth Charles Burnett, gyda thraethawd ymchwil o’r enw ‘The Daimon in Hellenistic Astrology: Origins and Influence’. Cyhoeddwyd monograff yn seiliedig ar ei thraethawd ymchwil yn 2016 gan Brill o dan yr un teitl.  

Ei diddordebau yw hanes astroleg, gan gynnwys ei damcaniaethau, athroniaeth ac arfer; cysyniad y demon yn yr hen fyd; seryddiaeth, astroleg a meddygaeth; dewiniaeth a chosmoleg; a chysyniadau ffawd yn yr hen fyd. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn theatr Saesneg o ddiwedd Oes Fictoria, ffeministiaeth Seisnig a’r bleidlais yn y 19eg a’r 20fed ganrif, a gwaith Peggy Webling (ei gor-hen-fodryb), awdur Saesneg o’r 20fed ganrif a ysgrifennodd y ddrama Frankenstein y seiliwyd ffilm Boris Karloff arni. Mae hi’n achyddes amatur medrus. Mae hi’n defnyddio ei sgiliau mewn ymchwilio archifau, ymchwilio llawysgrifau a phaleograffeg (Lladin, Groeg, Almaeneg, Saesneg) yn ei gwaith. Yn ogystal â Saesneg, ei hieithoedd yw Ffrangeg, Lladin, Groeg, rhywfaint o Eiffteg hynafol (Eiffteg Ganol a Diweddar, trawslythreniad Demotig), rhywfaint o Gopteg, a gallu darllen mewn Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg.

Ymhlith ei nifer o erthyglau cyhoeddedig y mae: ‘Arrows, Aiming and Divination: Astrology as a Stochastic Art’, yn Divination: Perspectives for a New Millennium, golygwyd gan Patrick Curry (2010); gyda Micah Ross, ‘The Role of Egypt in the Development of the Horoscope’ yn Egypt in Transition: Social and Religious Development of Egypt in the First Millennium BCE (2010); gyda Franziska Naether, ‘Astrological Implications in the Lot Oracle PGM 50’, MHNH, 11, 2011, tt. 484–505; gydag Alexander Jones, ‘P.Berl. 9825: An elaborate horoscope for 319 CE and its significance for Greek astronomical and astrological practice’, ISAW Papers 12 (2017); a ‘Porphyry of Tyre on the Daimon, Birth and the Stars’, yn Neoplatonic Demons and Angels, goln L. Brisson, S. O’Neill ac A. Timotin (2018). Mae hi wedi golygu cyfrolau’n ymwneud â hanes, damcaniaeth ac arfer astroleg ar ei phen ei hun (gweithiau astrolegol Kepler: Culture and Cosmos cyf. 14, 2010) a gyda Nicholas Campion (Astrology in Time and Place) a Charles Burnett (From Māshā’allāh to Kepler: Theory and Practice in Medieval and Renaissance Astrology, 2015). Ei gweithiau cyhoeddedig diweddaraf yw ‘The Hellenistic Horoscope’ a ‘Hellenistic Astronomy in Medicine’ yn Hellenistic Astronomy: The Science in its Contexts, golygwyd gan Alan C. Bowen a Francesca Rochberg yng nghyfres Brill’s Companions (2020).