Adroddiad newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at effaith cefnogi partneriaid yn GIG Cymru
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol, sy’n tynnu sylw at sut mae’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i wella canlyniadau iechyd a lles economaidd yng Nghymru.
![Life Science Hub Report](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-05/hub-report-english.jpg?h=3a461c8e&itok=tRMevvNV)
Mae’r sefydliad yn manteisio ar gydweithio i gefnogi partneriaid ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a’r diwydiant i fynd i’r afael â heriau sy’n effeithio ar iechyd a lles yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr ôl-groniad o bobl sydd angen mynediad at wasanaethau, poblogaeth sy’n heneiddio a chyfyngiadau ariannol ac adnoddau sy’n effeithio ar y ddarpariaeth.
Mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:
- Darparu £18,150,000 o Werth Ychwanegol Gros (GVA)
- Cefnogi partneriaid gyda 26 o gynigion sy’n barod i’w mabwysiadu ac 17 o gynigion cyllido
- Helpu gyda 330 o swyddi
- Cefnogi 319 o wahanol sefydliadau
Drwy astudiaethau achos cryno a dealltwriaeth allweddol, mae’r adroddiad yn dangos sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi gofal iechyd i fynd i’r afael â gofynion adfer ac ôl-groniadau ar ôl y pandemig ac wedi gweithio gyda’r diwydiant i hwyluso’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technolegau newydd yng Nghymru, fel biopsïau hylifol, monitro o bell a deallusrwydd artiffisial.
Rhoddir sylw i ystod eang o brosiectau a ffrydiau gwaith, gan gynnwys:
- Edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i fwrw ymlaen i ganfod a chael diagnosis o ganser yn gynnar drwy ddod â 120 o arweinwyr ynghyd sy’n gweithio ar flaen y gad yn y maes hwn mewn partneriaeth â Fforwm Diwydiant Canser Cymru.
- Cefnogi tîm byd-eang Cytiva drwy eu proses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at fuddsoddi a gwaith datblygu sylweddol yng nghyfleuster gweithgynhyrchu Cardiff Edge. Bydd y safle newydd a ddatblygwyd yn helpu i sicrhau cynnydd o 20% yng nghapasiti gweithgynhyrchu byd-eang Cytiva ar gyfer cynnyrch untro.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Rhwydwaith Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan mewn partneriaeth â byrddau iechyd a’r cynllun Canser Moondance. Bydd y rhaglen genedlaethol llawdriniaeth â chymorth roboteg yn darparu llawdriniaeth robotig sy’n creu archoll mor fach â phosib i filoedd o gleifion canser ledled Cymru.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lwytho i lawr yn llawn ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.