Skip page header and navigation

Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill gwobr ‘Budd i’r Gymdeithas’ yn ystod seremoni Gwobrau Gŵn Gwyrdd 2022 y DU ac Iwerddon 2022 eleni.

Green Gown Award Winners

Cyhoeddwyd enillwyr 2022 neithiwr (Tachwedd 8, 2022), mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Loughborough.

Wedi’i sefydlu yn 2004, mae’r seremoni Gwobrau Gŵn Gwyrdd yn dathlu’r mentrau cynaliadwyedd eithriadol hynny sy’n cael eu cynnal a’u gweithredu gan brifysgolion a cholegau.

Roedd y wobr ‘Budd i’r Gymdeithas’ yn cydnabod ATiC am ei ymchwil arloesol a chydweithredol gyda menter eHealth Digital Media Ltd o Abertawe.

Roedd y prosiect Gweld dementia trwy eu llygaid (Byw gyda Dementia)  yn cynnwys gwaith ymchwil gan dîm ATiC dros gyfnod o ychydig dros flwyddyn i lywio cyfres o 10 ffilm newydd gan eHealth Digital Media.

Gwnaeth y prosiect Gweld dementia trwy eu llygaid (Byw gyda Dementia) gynnwys ymchwil gan dîm Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Brifysgol dros gyfnod o ychydig dros blwyddyn yn sail i gyfres o 10 ffilm newydd gan eHealth Digital Media, sydd wedi’i leoli yn Newton.  Mae’r ffilmiau, am hynt a helynt beunyddiol pobl sy’n byw gyda dementia, yn ffocysu ar ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi dulliau meddwl ac arloesi strategol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil arloesol i brofiad defnyddwyr (UX) a gwerthuso defnyddioldeb wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1..  

Mae’r cwmni cyfathrebu digidol, eHealth Digital Media, yn cynhyrchu a chyflwyno cynnwys newid ymddygiad fel ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd trwy ei blatfform sefydledig PocketMedic.

Defnyddiodd y prosiect Brofiad Defnyddiwr uwch ac offer ymchwil ymddygiad dynol, fel technoleg olrhain y llygaid a thechnoleg adnabod mynegiant y wyneb, wrth greu a gwerthuso’r ffilmiau.

Gweithiodd tîm ATiC yn agos gyda Kimberley Littlemore, Cyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media, y mae ei dau riant, Clive a Pauline Jenkins, sydd yn eu 80au, yn byw gyda dementia a nhw oedd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect ymchwil.

Gosodwyd camerâu o gwmpas cartref Clive a Pauline i gadw llygad ar eu bywydau bob dydd. Yn ogystal, defnyddiodd y cwpl sbectol olrhain llygaid wrth ymgymryd â gweithgareddau o gwmpas y tŷ, fel bod y tîm yn gallu ‘gweld y byd trwy eu llygaid’.

Gwnaeth y darnau ffilm hyn helpu’r tîm i ddarganfod a deall unrhyw batrymau a sbardunau dros amser a nodi unrhyw enydau allweddol, y gellir eu dadansoddi a’u trafod ymhellach gan glinigwyr ac academyddion yn y maes.

Mae’r ffilmiau ar gael ar blatfform PocketMedic eHealth Digital Media, sy’n darparu ffilmiau gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel a ‘ragnodir’ gan glinigwyr i gefnogi eu cleifion i reoli eu iechyd.  Gan fod y deunyddiau dysgu yn rhai a ddarperir ar sgrîn, ac nid wedi’u cyhoeddi nac mewn print, maent ar gael yn rhwydd i ddefnyddwyr heb fawr ddim ôl-troed carbon.  

Hefyd, mae’r ffilmiau ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru diolch i nawdd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cafodd prosiect Gweld dementia trwy eu llygaid (Byw gyda Dementia) ei gefnogi trwy Accelerate, gwaith cydweithredol arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru, sef Prifysgol Caerdydd (CIA), Prifysgol Abertawe (HTC), y Drindod Dewi Sant (ATiC), a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Wedi’i hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, nod rhaglen Accelerate yw creu gwerth economaidd parhaol ar gyfer Cymru.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod a Chyfarwyddwr ATiC: “Rwyf wrth fy modd bod ymrwymiad Y Drindod i ddatblygu cynaliadwy trwy ei gweithgarwch ymchwil wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau cenedlaethol mawreddog hyn. Mae’n ailddatgan pwysigrwydd gwaith partneriaeth a chydweithio rhwng y Brifysgol a mentrau wrth gyflymu arloesi a datblygu modelau arfer mwy cynaliadwy.”

Meddai Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ATiC ac arweinydd prosiect: “Mae’r cyfan yn swnio’n dechnegol ofnadwy, ond wrth wraidd y cyfan mae dod i ddeall pobl. Deall sut maent yn rhyngweithio â’i gilydd; deall eu hanghenion; a helpu i ddatblygu’r cynhyrchion, gwasanaethau a systemau iechyd a lles gorau – pobl sy’n ganolog i’r ymchwil.

“Ar y cychwyn dechreuodd y prosiect hwn fel arbrawf syml a gododd o’r syniad bod ar Kimberley eisiau ‘gweld dementia trwy lygaid ei rhieni’ – a llwyddom ei helpu i wneud hynny’n llythrennol trwy ddefnyddio ein sbectol olrhain retinol symudol.

“Mae wedi ein helpu i ddeall sut mae pobl sydd â dementia yn byw, a deall pa fathau o heriau maent yn eu hwynebu bob dydd.”

Meddai Kimberley Littlemore, Cyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media: “Mae dangos a rhannu profiad byw â dementia, gyda’i gyfnodau da a’i gyfnodau drwg, wedi bod yn ffordd ysbrydoledig o gyflwyno gwybodaeth a magu hyder gofalwyr ac aelodau teuluoedd. 

“Drwy edrych trwy’r gwerthusiad Profiad Defnyddiwr, mae’n galonogol a boddhaus darllen bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch cefnogi pobl i fyw yn dda gyda dementia o ganlyniad i wylio’r ffilmiau hyn.  

“’Does gen i ddim ond edmygedd tuag at fy rhieni sydd wedi caniatáu i mi rannu eu taith. Mae rhywbeth da yn codi o sefyllfa eithriadol o heriol i ni gyd.” 

Mae prosiect Hygyrchedd a Chydraddoldeb trwy Ddysgu Digidol y brifysgol yn rhoi lle blaenllaw i symudedd, hyblygrwydd a chynhwysiant digidol trwy ddatblygu a gwella ystafelloedd addysgu Hybrid/Hyflex, sydd wedi’u cynllunio i alluogi i staff addysgu gyflwyno sesiynau ar yr un pryd a rhoi profiad cyfartal i ddysgwyr wyneb i wyneb ac ar-lein.

Hefyd, gwnaeth y Brifysgol ehangu mynediad i wasanaethau addysgu a digidol eraill trwy Fwrsari Cysyllted Digidol ar ôl gweld ar ddechrau pandemig Covid-19 nad oedd gan bob myfyriwr fynediad i ddyfeisiau TG a Wi-Fi, neu ddim yn gallu eu fforddio. Sefydlwyd y Bwrsari i gefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gynyddu dilyniant, cadw, a chwblhau myfyrwyr yn y grwpiau hyn.

Nod y ddau fenter yw darparu profiad dysgu cefnogol, cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr i’w galluogi i wireddu eu potensial llawn mewn amgylchedd digidol, gartref neu’n wyneb i wyneb.

Ochr yn ochr â chyrsiau gradd craidd y Brifysgol, mae rhaglen o Fodylau Priodweddau Graddedigion wedi’u cyflwyno sy’n berthnasol i holl fyfyrwyr y brifysgol, waeth beth fo’u rhaglen astudio. Cynlluniwyd y rhain i ddatblygu graddedigion cyflogadwy, cadarn sy’n llythrennog yn ddigidol

Nod y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion yw datblygu sgiliau a medrau proffesiynol a phersonol myfyrwyr ochr yn ochr â’u gwybodaeth pwnc academaidd. Mae un o’r modylau yn cyflwyno cysyniad ‘Problemau Drwg’ fel anghydraddoldeb, gordewdra, tlodi a chynaliadwyedd ac ystyried sut gall myfyrwyr weithio gydag eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau posibl.

Golyga’r Modylau Priodoleddau Graddedigion, gyda chymorth y dyfarniad bwrsari 245 eleni, bod myfyrwyr a dangynrychiolir o gefndiroedd o amddifadedd economaidd yn myned i mewn i faes amrywiol o raglenni academaidd yn amrywio o beirianneg, cyfrifiadureg, iechyd a gofal cymdeithasol i reoli gwestai gyda gwell wybodaeth a dealltwriaeth o lawer o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Yn olaf, ac yn annisgwyl, ehangodd y prosiect hwn pan welwyd bod symud i ddysgu hybrid/digidol yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff, drwy bylu’r gwahaniaeth rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref. Arweiniodd hyn at ffocws o’r newydd ar Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer staff a myfyrwyr.

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein bodd bod dull y brifysgol o sicrhau hygyrchedd a chydraddoldeb trwy ddysgu digidol wedi’i gydnabod yn y gwobrau pwysig hyn. Mae ein strategaeth ddigidol yn nodi ein hethos o ddull pobl yn ddiofyn, dull technoleg wrth ddylunio, gydag un o’n blaenoriaethau allweddol i adeiladu sylfeini dysgu digidol cryf ar draws y Brifysgol.

“Mae rhoi datrysiadau technegol arloesol ar waith trwy ein gofodau hybrid/Hyflex wedi gwella darpariaeth y cwricwlwm ar-lein ac mae ein hymagwedd cynhwysiant digidol trwy’r fwrsariaeth ddigidol wedi sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at offer TG perthnasol a chysylltedd. Ochr yn ochr â’r rhain, mae ein modiwlau priodoleddau graddedigion a ffocws clir ar ddatblygu iechyd a lles digidol, wedi helpu staff a myfyrwyr i ffynnu mewn sefyllfaoedd anodd.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau