Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi y bydd Côr Ifor Bach yn cystadlu yn rownd derfynol ‘Côr Cymru’ dros y penwythnos. 

Cor Ifor Bach singing in Côr Cymru

Blwyddyn yn ôl daeth casgliad o fyfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i sefydlu aelwyd arbennig ar gyfer pobl ifanc sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. 

Gyda chefnogaeth Cyfarwyddwr yr  Academi, Eilir Owen Griffiths, cafwyd llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri, gyda phump aelod yn cipio’r wobr gyntaf yn yr ensemble lleisiol. Bellach, mae 40 o aelod yn perthyn i’r aelwyd, a’r côr wedi cyrraedd rownd derfynol ‘Côr Cymru’ ar ôl ennill y categori Corau Ieuenctid.

Un o brif cystadlaethau corawl Cymru yw ‘Côr Cymru’ ar S4C, a nod y gystadleuaeth yw cynnal a chodi’r safonau canu corawl yng Nghymru. Mae pump categori yn y gystadleuaeth: Corau Plant dan 16 oed, Corau Ieuenctid o dan 25 oed, Corau Cymysg, Corau Lleisiau Unfath a Chôr Sioe.

Mae Aelwyd Ifor Bach yn gasgliad o fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau BA Perfformio, BA Theatr Gerddorol, BMus Perfformiad Lleisiol ar gampws y Brifysgol yng Nghaerdydd, ynghŷd â unigolion eraill sy’n byw ac yn gweithio yn y brif ddinas. 

Penderfynodd y myfyrwyr sefydlu’r aelwyd fel rhywbeth allgyrsiol i’w hastudiaethau er mwyn medru cymdeithasu, canu a chystadlu gyda’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Meddai Eilir Owen Griffiths:

 “Mewn cyfnod byr iawn mae’r grwp bychan hwn wedi tynu at ei gilydd yn anghoel i nid yn unig ddatblygu fel cor ond fel cymuned glos. Megis dechrau ydym ond mae cyrraedd rownd derfynol, Côr Cymru wedi rhoi hwb mawr i ni. Mae hi’n bleser cwrdd a’r criw bob nos Iau a gweithio ar ystod eang dros ben o gerddoriaeth.”

Daeth y côr yn fuddugol yng nghategori y corau ieuenctid, a byddant yn mynd ben ben gyda gweddill ennillwyr y gystadleuaeth ar y 12fed o Fai yn Aberystwyth. 

Dywedodd Jona Milone, myfyriwr BA Perfformio sy’n aelod o’r côr:

“Wedd hi’n brofiad anhygoel i gystadlu yng Nghôr Cymru gyda chystadleuaeth mor ddwys! Mae e wir yn hudol; y foment ble chi’n sefyll ar y llwyfan gyda’r ensemble a chymryd yr anadl gyntaf - cyn mynd ar y siwrne yma gyda’ch cyd-ganwyr.” 

“Mae Eilir wedi dangos i ni shwt mae côr Ifor Bach yn lawer fwy na jyst canu fel ensemble, mae’n amgynnwys emosiwn, adrodd straeon a pherfformio. Mae rhan fwyaf ohonom ni yn astudio’r celfyddydau ac felly yn joio’r mynegiant o berfformio yma.

“O ddiolch i Aelwyd Ifor Bach, fi wedi dod hyd yn oed agosach i bobl y côr sy’n dod a phobl o’r brifysgol a phellach at ei gilydd i ganu’n un, fel grŵp o bobl ifanc Cymraeg a dathlu ein hangerdd a chariad tuag at y grefft.”

Meddai Becky Timbrell, myfyrwraig arall:

 “Mae fod yn rhan o Gôr Ifor Bach fel bod yn rhan o deulu enfawr sydd yn parhau i dyfu. Yn wreiddiol, ein amcan ni am Côr Cymru oedd i fwynhau’n fwy na dim, ac mae cyrraedd y ffeinal wedi rhoi chryfder i ni fel grŵp, nid yn unig fel perfformwyr ond hefyd fel cyfoedion. Da ni’n diolch i Eilir am beth mae’r côr wedi darparu i ni.” 

Bydd modd gwylio rownd derfynol Côr Cymru ar S4C nos Sul nesa, Mai 12fed am 7.30 yr hwyr. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau