Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi treulio amser yn Vancouver, Canada yn rhan o gynllun Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Mae’r rhaglen yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Mae hefyd yn dod â dysgwyr ac addysgwyr o bob cwr o’r byd i Gymru.

Two happy smiling girls standing in front of five interlinked steel rings.

Cred y Brifysgol fod profiadau byd-eang yn rhan hanfodol o addysg gyflawn, ac mae wedi ffurfio partneriaeth ag ystod amrywiol o brifysgolion ledled y byd i gynnig cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gorwelion, ymgolli mewn diwylliannau gwahanol, a chael persbectif newydd ar eu maes astudio. 

Aeth myfyrwyr y Brifysgol o’r rhaglenni Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol a Digwyddiadau ar ymweliad â Choleg Douglas i ddysgu am y cyfleoedd i astudio yno gan ymweld ag atyniadau yn lleol ac ymhellach i ffwrdd gan gynnwys gemau pêl-fas a hoci iâ a Ffair Wledig a Rodeo Cloverdale. 

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd y cyrsiau Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd y daith dramor yn brofiad wnaeth ysbrydoli’r myfyrwyr, gan eu galluogi i ddysgu am wahanol ddiwylliannau a chymhwyso eu gwybodaeth academaidd mewn twristiaeth i wella eu cyflogadwyedd.”

Bu’r grŵp ar ymweliad hefyd â Chaer Hanesyddol Langley, cartref Cwmni Bae Hudson, cyn mynd am daith ar fferi i Ynys Vancouver i ymweld â Choleg Camosun. Yno cawson nhw eu tywys o amgylch y campws a Dunlop House, cartref y Gyfadran Lletygarwch gan fwynhau te, taith a darlith wadd. 

Uchafbwynt arall oedd y bws gwennol i fyny’r Sea to Sky Highway i dref hanesyddol Squamish ar gyfer ymweliad am ddim â’r Sea To Sky Gondola, ynghyd â thaith addysgol i wylio morfilod.

Yn Whistler, cyfarfu’r staff ag uwch reolwyr y Four Seasons Resort i ddatblygu cysylltiadau ar gyfer lleoliadau.

Yn ystod y daith cafwyd cyfle i gwrdd hefyd â graddedigion y Drindod Dewi Sant sy’n gweithio yng Nghanada. Cafodd y myfyrwyr eu croesawu ar ddechrau’r daith gan un o gyn-fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol y Drindod Dewi Sant, Raffique George.

Gwnaeth Raffique raddio o’r Drindod Dewi Sant yn 2019 ar ôl teithio o St Vincent i astudio Twristiaeth. Ymunodd Raffique â One Lounge mewn rôl Lletygarwch Gweithredol i ddechrau, ac mae bellach yn Rheolwr Cynorthwyol y Lolfeydd yn Nherfynell y De, Gatwick. 

Rhannodd hanes ei yrfa gyda’r myfyrwyr, gan adfyfyrio ar fanteision eu hastudiaethau a’r profiadau gwaith maes rhyngwladol a fwynhaodd yn y Swistir a Malaysia, yn ogystal ag egluro ei rôl gyfredol yn rheoli pobl bwysig yn y maes awyr.

Daeth y daith i ben gyda chinio yn Granville Island a chyfle i gwrdd ag un o raddedigion y cwrs Twristiaeth a Digwyddiadau, Caoimhe McNulty, sydd bellach yn gweithio i gwmni rheoli cyrchfannau moethus Discover Holidays, gydag amrywiaeth o ddarparwyr yn amrywio o drenau i’r Mynyddoedd Creigiog (Rockies) i deithiau parod moethus.

Meddai’r myfyriwr Matthew Morgan: “Un o uchafbwyntiau’r daith oedd pan aethom i wylio morfilod, ond y prif uchafbwynt oedd mynd yn ôl i Whistler ac ymweld â Squamish lle wnes i gwrdd â’r tîm rheoli a chael cynnig lleoliad ar gyfer blwyddyn nesaf.”

Meddai Clyde Seisun: “Mae’r daith hon wedi bod yn brofiad diwylliannol anhygoel i mi! Dwi wedi gweld a gwneud pethau nad oeddwn i byth yn meddwl fyddai’n bosibl. Byddaf yn bendant yn dychwelyd i Vancouver.”

Caitlin Morgan: “Profiad unwaith mewn oes! Roedd yn anhygoel. Dwi wedi tyfu cymaint fel person yn  sgil y daith hon. Yn ogystal â chael dealltwriaeth o’r hyn dwi eisiau ei wneud a’i gyflawni yn y dyfodol, dwi hefyd wedi dysgu pethau amdanaf i fy hyn ac wedi goresgyn ofnau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud i’r daith addysgiadol hon ddigwydd er mwyn i mi gael dealltwriaeth o’r gyrfaoedd sydd ar gael ar ôl graddio. Dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud ar bapur, y pethau ymarferol sy’n cyfrif.”

Meddai Rhiannon Gratrix: “Rhoddodd y daith i Vancouver gyfle anhygoel i mi ymweld â’r byd yn dysgu am y diwydiant twristiaeth, digwyddiadau a diwylliant. Cefais wybodaeth i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol drwy arsylwi ar weithrediadau gwestai a phrofi’r atyniadau twristaidd fel gwylio morfilod, sef fy hoff weithgaredd ar y daith o bell ffordd. 

“Mae’r daith hon wir wedi agor fy llygaid i’r cyfleoedd a’r potensial yn sgil fy ngradd ac mae wedi fy helpu’n fawr iawn i dyfu fel unigolyn. “

Shauna Whitcombe: “Fy uchafbwynt i oedd dysgu sut mae twristiaeth yn gweithio gyda diwylliannau, hanes a chelf brodorol yng Nghanada a hoffwn i nawr gael rôl fel hon yn gweithio gydag atyniad treftadaeth a diwylliant yng Nghymru.”

Elise Williams: “Roedd y daith i Vancouver yn brofiad anhygoel. Mynd i Whistler, Granville Island a’r Sea to Sky Gondola oedd rhai o fy hoff deithiau a phrofiadau o’r daith.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon