Skip page header and navigation

Ennill y Laura Ashley Lifestyle Award a sicrhau interniaeth â thâl fawr ei bri gan Rolls Royce – mae wedi bod yn gyfnod anhygoel o gyffrous a boddhaus i fyfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant. 

A happy and smiling group celebrating success at New Designers.

Derbyniodd Anna Eynon y Laura Ashley Lifestyle Award yn arddangosfa’r New Designers 2024 yn Llundain yr wythnos ddiwethaf am ei gwaith, sy’n dathlu natur a harddwch gwlyptiroedd Prydain, gan ganolbwyntio ar fioffilia a dod â natur a hapusrwydd i mewn i’n gwagleoedd.  Mae casgliad Anna wedi’i rannu’n ddau: casgliad i’r cartref a murlun macsimaidd pwrpasol, gan ddefnyddio sgrin-brintio i’r cyntaf, a phwytho a thorri â laser i’r ail. 

Yn rhan o’r wobr, mae Anna yn derbyn gwobr o £1000 i’r brand brynu’r gwaith celf a’r eiddo deallusol  buddugol i’w hychwanegu at Archif Laura Ashley, ynghyd â swydd interniaeth lawrydd â thâl am fis ym Mhrif Swyddfa Laura Ashley yn gweithio gyda thîm trwyddedu a thîm dylunio’r brand. 

Dywedodd Poppy Marshal-Lawton, Is-lywydd Laura Ashley, fod tîm y beirniaid wedi’i rwygo am fod tasg mor anodd ganddynt i ddewis o waith rhagorol y myfyrwyr ar y stondin Patrymau Arwyneb a Thecstilau.   Gwnaethon nhw’r sylw y gallent yn hawdd fod wedi rhoi gwobr i bob un ohonynt am eu bod wedi siarad cystal am eu prosiectau a syniadau unigol, gan ddangos dealltwriaeth fasnachol fawr o berthnasedd eu gwaith i frand Laura Ashley.  Roedd y brand yn dwlu ar waith unigryw Anna Eynon gan deimlo mai hi oedd y ffit gorau i’w brand yn y pen draw.  

“Rydym ni’n dwlu ar y testun pwnc a’r dehongliad o’r print ar draws ystod y dyluniad – casgliad addurno mewnol prydferth a masnachol i’r cartref .” Beirniaid Laura Ashley

Meddai Cyfarwyddwr Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau PCYDDS Georgia McKie: “Mae hyn yn tystio i weledigaeth wych Anna a’r gwaith ffantastig y mae’r rhaglen yn ymdrechu i’w gynnal o ran cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth. 

“Dywedodd brand Laura Ashley eu bod yn awyddus i ailgynnau eu cysylltiad Cymreig drwy raglen PCYDDS, felly bydd y tîm yn chwilio am gyfleoedd parhaus i weithio gyda’r brand treftadaeth Prydeinig enwog, gan ddod ag ef i mewn i brofiad y myfyrwyr i genedlaethau o ddysgwyr yn y dyfodol. 

Roedd Sandersons hefyd wedi sylwi ar Anna, gan ddweud yn anecdotaidd fod Laura Ashley ‘wedi eu trechu’ wrth ddewis Anna ar gyfer eu gwobr.   Rhoddwyd ‘tag cariad’ hefyd i Anna gan UK Greetings, yn yr un modd â’i chyd-arddangoswyr, Safiyyah Altaf ac Emily Phillips.  Mae hanes hyfryd o ‘dagiau cariad’ yn New Designers lle mae’r brandiau sy’n noddi’n cyflwyno tagiau prydferth ac yn eu gadael gyda detholiad o fyfyrwyr y mae’u gwaith wedi dal eu llygad.  

Ychwanegodd Georgia: “Roedd llif cyson o ymwelwyr â’r stondin dros yr wythnos, lle cwrddodd y myfyrwyr â llawer o’u harwr-frandiau gan groesawu’n ôl frandiau a ffrindiau’r rhaglen y maent wedi cael y pleser o gydweithio â nhw wrth iddyn nhw astudio.   

“Cwrddodd y myfyrwyr ag UK Greetings, Kindred Cards, Habitat, Standfast a Barracks a chymaint yn fwy.   Roedd hi’n hyfryd croesawu Mini Moderns yn ôl sydd bob amser mor gefnogol, y tro hwn yn rhannu eu haelioni a’u profiad o’r byd dylunio â dosbarth 2024.”

Croesawodd tîm staff a myfyrwyr ND24  Rolls Royce hefyd a ddaeth i ymweld â’u hintern nesaf i’r tîm Addurno Mewnol Pwrpasol.   

Jojo Bishop fydd yr intern Lliw, Defnydd a Thrim nesaf i Rolls Royce, gan ddilyn yn ôl troed Emma Landek a Rebecca Davies o’i blaen. 

Meddai Georgia: “Mae’n ddwywaith y pleser i glywed y bydd Emma yn cael ei chadw gan Rolls Royce o fis Awst ymlaen, gan ymuno â Rebecca, ein hintern cyntaf yn y brand, yn aelodau parhaol o’r timau dylunio yn Rolls Royce. 

“Bydd Jojo yn ymuno â’r brand am 13 mis a bydd yn cael ei lleoli yn eu pencadlys dylunio a ffatri yn Goodwood.  Mae’i gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd, yn benodol drwy sgrin-brintio, lliw, a brethyn.   Gwnaeth ei gwybodaeth am ddefnyddiau argraff ar Rolls Royce ac maent yn llawn chwilfrydedd i weld sut mae’n gallu dehongli materoliaeth y brand ar yr un pryd â dod â sgyrsiau ynghylch cynaliadwyedd i’w bwrdd lluniadu.”

Mae myfyrwyr eraill wedi mwynhau ystod o lwyddiannau – mae Solene Parker yn ymgymryd ag interniaeth chwe mis gyda Mitwill Textiles yn Ffrainc.   Roedd nifer o frandiau wedi sylwi arni hi hefyd yn New Designers – a derbyniodd ‘dagiau cariad’ gan Disney Home a The Clothworkers Company ac roedd ar y rhestr fer am wobr arobryn y New Designer of the Year. 

Tra buont yn New Designers cwrddodd tîm y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau â nifer o gwmnïau y maent wedi bod yn meithrin cysylltiadau â nhw.   

Yn y flwyddyn academaidd 24/25 bydd prosiect byw gyda’r brand ffaswin o Sweden Monki – roedd yn gymaint o bleser i’r tîm  groesawu Dylunydd Denim y brand i’r stondin a thrafod syniadau i’r flwyddyn i ddod.   

Meddai Georgia: “Roedd y myfyrwyr mor ddiolchgar am yr amser a gymerodd yntau i siarad am eu casgliadau o waith.  Hefyd cafodd y tîm y pleser mawr o gwrdd â’r uwch dîm dylunio o J Rosenthal sydd eisoes yn cyflogi un o’n graddedigion ffantastig, ac sydd bellach yn y broses o sicrhau’r dyfodol i un arall o’n dylunwyr graddedig eithriadol o dalentog.”

Mae dau fyfyriwr wedi cael llwyddiant wrth gael eu dewis i weithio i’r cwmni o Gymru Corgi Textiles ac wedi cychwyn ar gyfnod prawf cyn gweithio yno’n barhaol.   Mae myfyrwyr eraill wedi achub ar gyfleoedd i weithio ar brosiectau celfyddydau cymunedol gydag artistiaid a gwneuthurwyr wedi’u lleoli yng Nghymru yn cynnwys Heidi Baker o Popty Press a’r cyn Uwch Ddarlithydd Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Julia Griffiths Jones.

“Mae wedi bod yn gorwynt o gyfleoedd i’r rhaglen a’r myfyrwyr, gyda chyfleoedd yn dod i mewn drwy’r amser.   Mae myfyrwyr sy’n parhau’n gweithio ar brosiectau i’n cymdogion yn Neuadd Albert, ac yn Bywyd Bioffilig yn Abertawe,” meddai Georgia. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon