Skip page header and navigation

Mae heddiw (20 Mai) yn nodi cyhoeddi Cam 2 adolygiad cynhwysfawr o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Five young people in ripped jeans leaning against a brick wall and holding their phones.

Mae’r prosiect ymchwil sylweddol hwn, a gynhaliwyd gan dîm cydweithredol o ymchwilwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Wrecsam, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw gwerthuso digonolrwydd, tryloywder, atebolrwydd, ac effeithiolrwydd cyllid a gwariant yn y sector gwaith ieuenctid i helpu i ddatblygu model ariannu cynaliadwy.

Cychwynnwyd yr adolygiad mewn ymateb i argymhelliad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar gyfer asesiad annibynnol o’r dirwedd ariannu bresennol. Mae pedwar amcan allweddol ar gyfer yr adolygiad ariannu sy’n cynnwys tri cham ymchwil i’w cyflawni. Nod ‘cam un’ yr adolygiad ariannu oedd darparu fframwaith clir ar gyfer yr ymchwil i’w wneud gan gynnwys asesiad cyflym o dystiolaeth (REA) o’r llenyddiaeth sydd ar gael, ymchwil ar ymarfer gwaith ieuenctid a golwg ar sut mae ymchwilwyr blaenorol wedi dadansoddi cyllid. a modelau o fesur gwerth am arian yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Yn ystod y cam hwn (Cam 2) o’r adolygiad roedd cyfle i’r tîm ymchwil adeiladu ar y wybodaeth a’r dystiolaeth a gyhoeddwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol. Canolbwyntiodd y tîm ar y meysydd allweddol a godwyd yng ngham 1 drwy gasglu tystiolaeth fanylach o leoliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chynaledig ar draws y pedair ardal awdurdod lleol gyda’r gwaith diweddaraf hwn yn amlinellu canfyddiadau hollbwysig ac yn cyflawni 12 argymhelliad strategol i’w hystyried gan Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.

Dywedodd Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg:

“Mae ein hymdrechion yn ystod Cam 2 wedi bod yn canolbwyntio ar gasglu data cynhwysfawr a mewnwelediadau o ystod eang o leoliadau gwaith ieuenctid o’r sector a gynhelir a’r sector gwirfoddol. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd unigryw o fewn y sector. Mae ein canfyddiadau yn amlygu’r angen am strategaeth ariannu fwy cydlynol i sicrhau cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid.”

“Byddwn nawr yn symud ymlaen i gam olaf (Cam 3) yr adolygiad a fydd yn cynnwys dadansoddiad cost a budd gyda’r nod o sefydlu effaith ac effeithiolrwydd economaidd cyllid gwaith ieuenctid. Byddwn hefyd yn ceisio nodi arfer da mewn perthynas ag ariannu gwasanaethau gwaith ieuenctid ar gyfer y dyfodol wrth i ni weithio tuag at nodi model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol.”

Canfyddiadau ac Argymhellion Allweddol o Gam 2:

Ceir tystiolaeth o bedwar canfyddiad allweddol yn yr adroddiad sy’n ymwneud â:

1. Lefelau Ariannu Presennol: adolygiad o’r lefelau ariannu presennol gan roi trosolwg o incwm a gwariant ac ystyriaeth o gynaliadwyedd y ffynonellau ariannu.

2. Prosesau Ariannu: adolygiad o’r prosesau ariannu gan gynnwys y rhwystrau i gyrchu cyllid.

3. Dadansoddiad o Wariant: dadansoddiad o sut mae arian yn cael ei wario.

4. Adolygiad Llywodraethu: adolygiad o lywodraethu sefydliadau h.y. sut y gwneir penderfyniadau ar gyllid a gwariant a sut mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau.

O’r 12 argymhelliad yn yr adroddiad mae’r cyntaf yn berthnasol i bob un:

“Dangosodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i waith ieuenctid yn y blynyddoedd diwethaf. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill barhau i hyrwyddo a datblygu model cynaliadwy a theg o waith ieuenctid yng Nghymru.”

Edrych Ymlaen: Mae trydydd cam yr ymchwil hwn, a fydd yn cynnwys Dadansoddiad Cost a Budd cynhwysfawr o waith ieuenctid yng Nghymru, i’w gyhoeddi yn hydref 2024.

Nodiadau i Olygyddion

Mynediad i’r Adroddiadau: 

Adolygiad o Gyllido Gwaith Ieuenctid: Cam 2 

Adolygiad o Gyllido Gwaith Ieuenctid Crynodeb Gweithredol Cam 2

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

• Dr. Nichola Welton, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: n.welton@uwtsd.ac.uk 

• Yr Athro Mandy Robbins, Prifysgol Wrecsam: Mandy.Robbins@wrexham.ac.uk 

• Louise Cook, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: lcook@cardiffmet.ac.uk 

• Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Wasg Addysg: educationpressoffice@gov.Wales  


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon