Skip page header and navigation

Mae WorldSkills UK wedi cyhoeddi dros 400 o brentisiaid a myfyrwyr dawnus sydd wedi symud ymlaen i’w rowndiau terfynol cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys Tamzin Brewer PCYDDS a fydd yn cystadlu yn y categori Melino CNC.

Three smiling people, one of whom is proudly holding a gold trophy.

Mae Tamzin, technegydd dan hyfforddiant yn CBM Wales Ltd, wedi cwblhau ei chymhwyster NVQ lefel 3 yn ddiweddar ac mae’n gobeithio symud ymlaen i raglen prentisiaeth gradd PCYDDS. Enillodd fedal aur yn rhagbrawf Cymru o gystadleuaeth Melino CNC.

Mae cystadleuwyr wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol mewn colegau, canolfannau darparwyr hyfforddiant, gweithleoedd, neu ar-lein. Trwy eu perfformiad eithriadol, maent wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhelir ym Manceinion Fwyaf rhwng 19 a 22 Tachwedd.

Eleni, bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn dros 40 o sgiliau, gan gynnwys disgyblaethau fel Celf Gêm Ddigidol 3D, Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Weldio, a Thirlunio.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau mawr i’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cenedlaethol eleni. Dymunwn bob lwc iddynt yn eu hyfforddiant wrth iddynt baratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn ôl ym Manceinion Fwyaf ar gyfer ein rowndiau terfynol cenedlaethol ym mis Tachwedd ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a’n holl leoliadau cynnal.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr a phartneriaid o bob rhan o’r DU i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol a gyrru datblygiad sgiliau o’r radd flaenaf ar gyfer pob person ifanc.”

Dywedodd Lee Pratt, Rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch PCYDDS: “Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Tamzin. Yn dilyn ymlaen o’i medal aur yng nghystadleuaeth Cymru eleni, mae Tamzin wedi mynd trwy rownd rhagbrofol ers hynny i ennill ei lle yn rowndiau terfynol WorldSkills Cenedlaethol eleni Gan ddechrau gyda 38 o ymgeiswyr o bedwar ban y DU, mae Tamzin yn un o wyth yn y rownd derfynol a fydd yn teithio i Fanceinion ym mis Tachwedd i gystadlu yng nghystadleuaeth melino CNC.

Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr yn cael eu hanrhydeddu yn Neuadd Bridgewater fawreddog Manceinion ddydd Gwener 22 Tachwedd.

Cynhelir y cystadlaethau Sgil Sylfaen a’r seremoni fedalau sy’n cyd-fynd â nhw ddydd Gwener, Tachwedd 22 ar Gampws Dinas Coleg Manceinion.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon