Skip page header and navigation

Mae Oscar MacNaughton o’r Drindod Dewi Sant ymhlith grŵp o brentisiaid a myfyrwyr gorau Cymru sydd ar fin gorchfygu’r llwyfan gobal yn yr hashnod WorldSkills yn Lyon.

A smiling group pic, arms folded, standing inside the Senedd.

Dechreuodd Oscar weithio i CBM PCYDDS fel prentis peiriannydd dylunio. Ymgeisiodd yng nghystadleuaeth WorldSkills ar gyfer Gweithgynhyrchu Ychwanegion fis Medi diwethaf a chymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol y DU.

Cyfarfu’r Ysgrifennydd Jeremy Miles â phedwar o’r grŵp yn y Senedd i glywed am eu gobeithion ar gyfer y gystadleuaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles:

“Rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi’r garfan o Gymru sy’n rhan o Dîm y DU.
Mae ymroddiad a gwaith caled Ruby Pile, Oscar McNaughton, Rosie Boddy, Max Clarke, Arron Luker a Ruben Duggan yn enghraifft o effaith rhaglenni datblygu sgiliau. Mae eu cyfranogiad yn WorldSkills Lyon 2024 yn adlewyrchu eu hymrwymiad i ragoriaeth a meistrolaeth yn eu disgyblaethau.
Mae WorldSkills yn dyst i’r maes datblygu sgiliau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae’n darparu llwyfan i unigolion talentog arddangos eu harbenigedd a chystadlu ar lefel ryngwladol.

Mae’r gweithwyr proffesiynol medrus hyn yn cynrychioli ystod amrywiol o feysydd, fel Argraffu 3D, Cynnal a Chadw Awyrennau, Gwasanaethau Bwyty, Seiberddiogelwch a Plymio a Gwresogi, gan ddangos pwysigrwydd addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

Wrth i ni ddathlu eu llwyddiant, gadewch i ni gydnabod rôl hanfodol datblygu sgiliau wrth lunio ein gweithlu ar gyfer y dyfodol a meithrin arloesedd.

Yn union fel y byddwn yn dathlu doniau athletaidd elît yn Lyon yr wythnos cynt, byddwn yn cymeradwyo talentau ac ymroddiad y chwe chystadleuydd ifanc hyn sy’n awyddus i arddangos eu gallu.

Ac mae’n bwysig cydnabod cynrychiolaeth drawiadol eu gwlad drwy ystyried cymhareb y cystadleuwyr i’r boblogaeth. Mae un o bob pump o’r tîm yn Gymry.

Rydyn ni i gyd mor falch ohonoch chi yma yng Nghymru.
Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’n cystadleuwyr a’r rhai o weddill y Deyrnas Unedig.
 

Dywedodd Lee Pratt, rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch PCYDDS: “Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Oscar wrth gyrraedd mor bell â hyn a chael safle gyda charfan WorldSkills UK.

“Mae hon yn flwyddyn beilot ar gyfer y gystadleuaeth Gweithgynhyrchu Ychwanegion. Mae’n ofynnol i gystadleuwyr ddefnyddio nifer o sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch fel rhan o’u prawf gan gynnwys, sganio 3D, peirianneg wrthdro, efelychu cyfrifiadurol ac argraffu 3D.

“Rydyn ni’n credu bod gan Oscar yr hyn sydd ei angen i fynd yr holl ffordd gyda WSUK a bydd yn ei gefnogi bob cam o’i daith!”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau