Skip page header and navigation

Mae carfan o Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg wedi graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Thystysgrif Raddedig Cymraeg Mewn Blwyddyn. 

An image of the students together in their cap and gown

Dyma gwrs sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i fwriad yw uwchsgilio athrawon y sector cynradd cyfrwng Saesneg i allu addysgu’r Gymraeg yn hyderus a llwyddiannus yn eu hysgolion. Caiff yr athrawon eu trochi yn yr iaith Gymraeg am ddau dymor er mwyn dysgu siarad yr iaith, ac maen nhw hefyd yn dysgu llawer am fethodolegau a phedagogeg caffael iaith er mwyn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau fel athrawon iaith. 

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr fagu hyder i addysgu’r Gymraeg yn effeithiol yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru.  Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae’r athrawon yn dychwelyd i’w hysgolion gyda’r iaith, yr wybodaeth a’r brwdfrydedd i godi safonau’r Gymraeg ar draws yr ysgol a thu hwnt. 

Meddai Jo Francis, un o’r myfyrwyr oedd yn graddio:

 “Mae’r cwrs hwn wedi rhoi mwy o hyder i fi ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol ac wedi rhoi gwell ddealltwriaeth i fi o’r fethodoleg sydd ei hangen i gaffael iaith newydd.”

Ychwanegodd Morgan Patterson: 

“Roedd y cwrs yn brofiad arbennig iawn. Roedd e’n fy helpu i gyda fy hyder yn y Gymraeg yn y dosbarth ac mewn bywyd bob dydd. Mae llawer o syniadau newydd gyda fi i ddefnyddio yn fy nosbarth ac ar draws yr ysgol. Hefyd, gwnes i ffrindiau gorau! Y cwrs yw’r peth gorau rydw i wedi erioed wedi wneud.”

Dywedodd Lynne Roberts-Watkins:

“Bellach mae gen i’r hyder i siarad Cymraeg yn fy nghartref, yn fy rôl fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Calon y Dderwen a hefyd yn y gymuned ehangach. Mwynheais bob agwedd o’r cwrs hwn yn fawr a byddwn i’n ei argymell yn fawr i unrhyw un fel fi sy’n angerddol am yr iaith Gymraeg ac ethos Gymraeg.”

Dywedodd Kara Lewis, un o ddarlithwyr y cwrs: 

“Mae’n bleser gweld ein myfyrwyr yn graddio a dathlu eu hymroddiad a’u gwaith caled. Mae eu cyfraniad yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr. Ry’n ni’n gweld yr effaith mae’r athrawon hyn yn cael yn ôl yn eu hysgolion, nid yn unig o ran datblygiad iaith, ond maen nhw’n ysbrydoli cariad tuag at yr iaith, a brwdfrydedd a pharch. Ar ran y tîm dysgu, llongyfarchiadau enfawr iddyn nhw.

Yn bresennol yn y seremoni hefyd oedd Gwen Davies, sydd hefyd yn darlithio ar y cyrsiau hyn:

“Un o gryfderau’r cwrs hwn yw’r dwysder o ran dysgu iaith, ond hefyd ry’n ni’n cael cyfle i’w trochi yn niwylliant Cymru drwy eu hannog i fynychu digwyddiadau lleol ynghyd a chymryd rhan mewn Eisteddfodau lleol a thramor. Ry’n ni’n cynnal sesiynau ar hanes y Gymraeg er mwyn dangos sut ry’n ni wedi cyrraedd y sefyllfa gyfredol, a phwysigrwydd eu rôl nhw yn ei dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon