Skip page header and navigation

Bydd seremonïau graddio dosbarth 2024 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn parhau yn Arena Abertawe heddiw.

Graddedigion yn chwerthin wrth iddynt daflu eu capiau academaidd i’r awyr ar bompren Bae Copr â’i waliau aur yn Abertawe.

Mae’r seremonïau’n rhoi cyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hymrwymiad, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyflawniadau eu myfyrwyr.

Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor PCYDDS, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi’r cyfle i ni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu.  Mae eich addysg wedi bod yn fwy na pharatoad ar gyfer gyrfa; mae’n sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes ac yn ymrwymiad i wneud gwahaniaeth. Mae gennych chi’r potensial i ddefnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu i gael effaith gadarnhaol ar les ein cymdeithas yn y dyfodol ac ar fywydau pobl eraill. Gallwch fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau heddiw. Rydych chi wedi dangos bod gennych chi’r penderfyniad, yr ymrwymiad, a’r gwytnwch i lwyddo.”

Wrth annerch y graddedigion yn ystod y seremoni, dywedodd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, Emlyn Dole: “Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud eich bod chi, sef dosbarth 2024 yn garfan arbennig iawn. Fe wnaethoch chi ymuno â ni a dechrau eich astudiaethau a cychwyn eich bywyd yn y Brifysgol yng nghanol neu ar ddiwedd pandemig a gorfod addasu i ofynion newydd ac i ffyrdd newydd o weithio. 

Ond gwnaethoch hynny i gyd a chymaint mwy. Mae’r ffordd i’r fan hon ac i’ch graddio weithiau wedi’i diffinio fel dringfa serth a hir. Ac i fenthyg cyfatebiaeth mynydda a ddefnyddir yn aml gan ddringwyr profiadol, ‘nid y mynydd yr ydym yn ei orchfygu, ond ni ein hunain.’

Ond sut bynnag y byddwch chi’n dewis diffinio’ch taith neu pa gyfatebiaeth bynnag y byddwch chi’n ei defnyddio i’w disgrifio, maddeuwch i i mi am aros gyda’r mynydd am eiliad. Weithiau gall y ddringfa fod yn hir a serth, ond rydych wedi llwyddo, felly cymerwch eiliad, yma ar y copa, i fod yn falch o’ch cyflawniadau.

Rwyf am roi hwb calon i chi wrth i ni i gyd wneud ffarwel olaf wrth i chi adael neuaddau academia sanctaidd. Ar y dyddiau mwyaf arwyddocaol hwn byddwch mor falch iawn ohonoch chi eich hun a’r platfform rydych chi wedi’i adeiladu, mae’n sylfaen gadarn wedi’i gosod ar sylfeini cadarn Bydd hyn yn hanfodol yn eich dyfodol llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd.”

Rwyf am ddymuno’n dda i chi wrth i ni i gyd ffarwelio ac wrth i chi adael neuaddau cysegredig y byd academaidd. Ar y diwrnodau mwyaf arwyddocaol hwn byddwch mor falch ohonoch chi’ch hun a’r platfform rydych chi wedi’i adeiladu, mae’n sylfaen gadarn wedi’i gosod ar seiliau cadarn a bydd hynny’n hollbwysig i chi yn eich dyfodol llwyddiannus. Llongyfarchiadau gwresog i chi gyd.”

I’r rhai na allant ddod yn bersonol, mae’r brifysgol yn cynnig ffrydio byw o’r seremoni ar wefan y Brifysgol.   Mae’r Llyfryn Graddio ar gael ar wefan y Brifysgol. Bydd y seremonïau hefyd yn cael eu ffrydio yn fyw ar ein gwefan. 

Ymunwch â ni i ddathlu taith a llwyddiant anhygoel Dosbarth PCYDDS 2024!


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon