Skip page header and navigation

Llongyfarchiadau i Dr Alison Evans o’r Drindod Dewi Sant sy’n graddio heddiw gyda Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD). Mae Dr Evans yn bwriadu defnyddio’r sgiliau o’i chymhwyster newydd i ysbrydoli eraill sydd hefyd heb ddilyn y llwybr academaidd traddodiadol, bod unrhyw beth yn bosibl.

A smiley, happy and proud graduate dressed in her cap and gown.

Dywedodd Dr Evans, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs MA (Addysg) Cenedlaethol yn y Brifysgol: “Ar ôl peidio â gwneud yn dda iawn yn yr ysgol i ddechrau, gweithiais yn galed i gymhwyso fel athrawes ysgol uwchradd erbyn 28 oed. Roeddwn yn ddigon ffodus i weithio gyda rhai cydweithwyr gwych a myfyrwyr eithriadol am dros 20 mlynedd cyn i mi ymgymryd â swydd uwch ddarlithydd o fewn addysg gychwynnol athrawon yn PCYDDS. 

“Tra’n gweithio yn amgylchedd y brifysgol, datblygais angerdd am ddysgu pellach a chwblhau fy nghwrs meistr yn gyflym cyn cofrestru ar yr EdD.  Roeddwn yn awyddus iawn i wneud y cwrs hwn er mwyn i mi allu defnyddio fy nghymhwyster Doethuriaeth i helpu (ac o bosibl ysbrydoli) eraill nad oeddent efallai wedi dilyn y llwybr academaidd traddodiadol ac i ddangos i bawb bod unrhyw beth yn bosibl.”   

Dywedodd Dr Evans ei bod yn fraint gweithio gydag athrawon sy’n anelu at fod yn seiliedig ar ymchwil a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym maes addysg. 

“Rwyf hefyd yn addysgu ar y cwrs EdD ac eto, mae bod yn rhan fach iawn o hynt addysgol ein myfyrwyr yn fraint ac yn rhoi boddhad mawr,” meddai. 

“Ym myd addysg, does dim byd yn aros yn ei unfan.  Rwyf wedi bod mor ffodus i weithio gyda chydweithwyr uchel eu parch ac ni fyddaf byth yn rhoi’r gorau i ddysgu.  O addysgu’r glasoed, i arwain athrawon dan hyfforddiant a gweithio gydag ymarferwyr sy’n gwasanaethu wedi fy ngalluogi i gael persbectif cyfannol am y dirwedd addysgol ‘ar yr wyneb sialc’.

Dywedodd Dr Evans fod astudio ar lefel Doethuriaeth wedi ei galluogi i ymwneud ag ystod eang o lenyddiaeth, herio ei meddwl a chyfrannu at y maes gwybodaeth.

“Rwy’n gobeithio y gallaf barhau i fireinio fy ngwybodaeth a’m sgiliau i helpu eraill,” meddai. 

“Mae’r EdD wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym myd addysg, sy’n golygu bod astudio ar ben gwaith llawn amser i lawer o fyfyrwyr.  Mae chwe blynedd o wthio eich hun i gyflawni pethau nad oeddech chi’n siŵr y gallech chi eu gwneud ar ddechrau’r cwrs nawr mor werth chweil i mi. Byddwn yn bendant yn annog pobl i feddwl am yr EdD - nid oes unrhyw ddyn (neu fenyw) yn ynys a bydd y gefnogaeth y byddech yn ei chael gan staff academaidd a chyfoedion fel ei gilydd yn golygu eich bod yn gorffen y cwrs yn llawer cyfoethocach ar gyfer y profiad.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon