Skip page header and navigation

Mae Emily Thomas, myfyriwr MSc Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynrychioli Cymru yn y naid hir yn nigwyddiad Athletau Rhyngwladol Loughborough (LIA). Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddydd Sul, Mai 19, 2024, yn Stadiwm Paula Radcliffe Prifysgol Loughborough gan nodi dechrau’r tymor athletau awyr agored ac roedd timau o Loegr, Cymru, Yr Alban, Tîm dan 20 y D.U. a Gogledd Iwerddon, y Gynghrair Athletau Cenedlaethol, a Phrifysgol Loughborough yn cymryd rhan ynddo.

a photo of Emily in her Welsh kit

Wrth siarad am arwyddocâd y digwyddiad, dywedodd Athletau Cymru:

 “Mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle allweddol i lawer o’n hathletwyr, wrth iddynt baratoi ar gyfer Pencampwriaethau’r haf.”

Cafodd Emily, sy’n ymarfer ac yn hyfforddi yn Archers Caerdydd, berfformiad cryf, gan orffen yn 8fed gyda naid o 5.53 metr. Rhannodd ei chyffro am y cyfle: 

 “Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael fy newis i gynrychioli Cymru felly rwy’n ddiolchgar i Athletau Cymru am y cyfle. Roedd yr awyrgylch yn Loughborough yn anhygoel, doedd dim lle gwell i agor tymor awyr agored nag yno. Cefais wersyll hyfforddi gwych dros y Pasg gyda fy ngrŵp a’m hyfforddwr (Phil Warwicker) o Archers Caerdydd, felly rwy’n edrych ymlaen i weld beth y gallaf ei wneud weddill y tymor hwn.

 “Rwy’n falch i fod yn rhan o PCYDDS ac i gynrychioli’r Brifysgol a Chymru yn y digwyddiad hwn. Mae’r cymorth a’r anogaeth a gaf gan y Brifysgol heb ei ail ac rwy’n gyffrous ar gyfer gweddill tymor yr haf.”

Meddai Sharon Leech, Pennaeth Chwaraeon Unigol yn Academi Chwaraeon PCYDDS:

 “Rydym yn eithriadol o falch bod un o’n myfyrwyr yn gwisgo fest Cymru yn y digwyddiad mawreddog hwn.  Mae cynrychioli eich gwlad yn anrhydedd enfawr ac ar ran yr Academi hoffwn longyfarch Emily ar gael ei dewis. 

 “Yn ddiweddar, derbyniodd Emily wobr ‘Athletwr Chwaraeon Unigol y Flwyddyn’ Academi Chwaraeon PCYDDS, yn dilyn ei pherfformiad ardderchog yn Athletau Dan Do BUCS a Phencampwriaethau Dan Do Athletau Cymru hefyd. A hithau wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae Emily yn gwneud ei holl hyfforddi yno gyda’i hyfforddwr, Phil, fodd bynnag roedd Emily yn falch i wisgo fest PCYDDS wrth gystadlu yn y BUCS.”

Ychwanegodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

 “Mae Academi Chwaraeon PCYDDS yn eithriadol o falch o bopeth mae Emily wedi’i gyflawni eleni a dymunwn bob lwc iddi ar gyfer tymor yr haf. Hoffwn hefyd ddiolch i Sharon am yr holl gymorth mae hi wedi’i roi i’n holl fyfyrwyr sy’n athletwyr unigol eleni.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon