Llwyddiant Tîm MCR yn Castle Combe
Beth wnewch chi pan fydd hongiad (suspension) eich car yn methu tra byddwch ar y trac? Gofynnwch i Tim Tudor o’r Drindod Dewi Sant, a wynebodd y sefyllfa anodd honno wrth rasio gyda Thîm MCR y Brifysgol, sy’n cynnwys myfyrwyr o’r Rhaglenni BEng, BSc a HND Chwaraeon Moduro, ar gylch rasio Castle Combe.
Ar ôl i’r uniad rhosyn yn yr hongiad fethu, llwyddodd Tim i osgoi mynd oddi ar y trac o drwch blewyn, a dychwelyd i’r ‘pit’. Cwblhaodd y tîm y gwaith atgyweirio yn ardal y ‘pit’ ac anfon y car yn ôl allan gyda phum munud i sbario, a oedd yn ddigon o amser i yrrwr arall car rhif 40, Patrick, osod amser am y lap olaf a wnaeth sicrhau safle rhif 3 ar y grid cychwyn.
Roedd yn benwythnos cyffrous, a welodd y tîm yn rasio’n galed am y 50 munud llawn i ddod yn 3ydd ac yn 5ed. Yn ogystal enillon nhw wobr Gyrrwr y Dydd mewn cydnabyddiaeth o’u perfformiad rhagorol fel tîm. Mae’r tîm ar eu ffordd nawr i roi eu sgiliau sylweddol ar brawf yn Brands Hatch.
Meddai Tim Tudor: “Roedd yn benwythnos gwych heriol, yn arddangos gwaith tîm y myfyrwyr. Roedd hi’n hyfryd gweld y myfyrwyr yn dod yn ôl ar ôl i hongiad y car fethu yn ystod y rowndiau rhagbrofol, gan ddatrys y broblem yn ystod y sesiwn fel bod modd i’r ddau yrrwr gymhwyso a chymryd safle rhif 3 ar y grid.
“Yn ystod y ras roedd y car yn gwneud yn dda yn y glaw ac roedd yn ganlyniad gwych cyrraedd nôl yn y trydydd safle mewn amodau gwlyb heriol. Diolch o galon i’r tîm!”
Meddai un o’r gyrwyr, John Iley, sy’n Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant: “Yn Castle Combe dangosodd tîm cyfan y Drindod Dewi Sant y cynnydd maen nhw’n ei wneud. Atgyweiriadau hanfodol mewn amser byr iawn, strategaeth stopio gwych yn y ‘pit’ a chynnydd cadarn o ran cael y car yn barod a gwneud gwaith diweddaru.
“Roedd y car yn gryf iawn yn yr amodau gwlyb peryglus ac roedd cael y ddau gar yn y 5 uchaf yn wobr briodol am yr holl waith caled gan bawb y tu ôl i’r llenni.”
Ychwanegodd Alfie Morgan, arweinydd y tîm: “Roedd Combe yn ddiwrnod y gall y tîm cyfan fod yn falch ohono. Oherwydd yr amodau cyfnewidiol roedd yn ddiwrnod heriol i’r tîm ar ben y methiant i’r hongiad yn y rowndiau rhagbrofol. Ond llwyddwyd i atgyweirio hwnnw yn gyflym i gael PS yn ôl allan gyda 5 munud i fynd a chymryd safle rhif 3 a lle ar y podiwm yn y pen draw ar ddiwedd y ras. Fe wnaeth hyn, a gyrru rhagorol gan John Iley, sicrhau’r canlyniad gorau i’r tîm hyd yn hyn. Dwi’n methu aros am Brands Hatch.”
Datblygodd tîm myfyrwyr MCR o awydd y myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth maent yn ei hennill trwy’r rhaglenni peirianneg yn y Drindod Dewi Sant i fyd rasio go iawn. Cefnogwyd y myfyrwyr gan Gynghorydd y Brifysgol a’r Gyfadran, Tim Tudor, i ddechrau rasio car Formula Renault ym mhencampwriaeth Fformiwla 4 750 MC cyn i’r tîm symud i Monoposto gyda’r un car. Gyda pherthynas dechnegol yn datblygu gyda Cheir Rasio MCR penderfynwyd newid i bencampwriaeth Sports 2000 a fyddai’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu car rasio MCR ac yna cymhwyso’r datblygiadau hyn yn erbyn timau proffesiynol a chlwb.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071