Skip page header and navigation

Mae Kevin Blanco Ledesma, myfyriwr ail flwyddyn ar y cwrs BA Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cydbwyso ei astudiaethau â rhedeg bwyty sydd newydd agor.

A smiling man in a chef outfit next to a happy, smiling lady with plates of food in front of them.

Mae Kevin, a anwyd yn Sbaen ac a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc y Byd – Cymru 2022, yn berchennog balch Casa Blanco, bwyty tapas yn 85 Heol Newton, y Mwmbwls, Abertawe.

Mae Kevin, sydd wedi gweithio fel pen-cogydd yn Sbaen ac yn Abertawe yn y gorffennol, yn talu clod i’r Brifysgol am ei helpu i ddechrau ei fusnes ei hun a dywed fod cefnogaeth ei ddarlithwyr wedi bod yn wych.

Meddai: “Mae wedi bod yn freuddwyd i mi i agor a rhedeg fy mwyty fy hun ac mae astudio am y cwrs hwn wedi fy helpu i wneud hynny. Mae wedi dysgu cymaint o sgiliau rheoli allweddol i mi. Mae’r modylau strwythur, rheolaeth a marchnata, yn enwedig, wedi rhoi’r hyder i mi i roi cynnig ar bethau, sy’n gallu peri ofn weithiau, gan wybod fod gen i’r sgiliau angenrheidiol.” 

Lluniwyd y rhaglen BA Gastronomeg Ryngwladol er mwyn i ymgeiswyr ddatblygu sgiliau penodol, sy’n canolbwyntio ar fwytai a gastronomeg ryngwladol, dyletswyddau cefn tŷ a blaen tŷ, ac arweinyddiaeth reoli, gan ganiatáu iddynt fanteisio ar gyfleoedd gyrfa eang ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.

Mae gan staff sy’n addysgu ar y rhaglen gysylltiadau rhagorol o fewn y maes lletygarwch, gyda phob un naill ai wedi bod yn berchen ar fwytai eu hunain, neu wedi rheoli neu arwain mewn bwytai.

Ceir ymgysylltu cryf â chyflogwyr allweddol a chyfranogiad â ffocws mewn rhwydweithiau a mentrau sgiliau. Mae’r rhaglen yn darparu lleoliad parhaus mewn bwyty proffesiynol ochr yn ochr â modylau academaidd bob semester dros y tair blynedd, ac mae’n esblygu’n barhaus yn unol ag adborth gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant bwytai.  Mae gan y Brifysgol berthynas waith gref gydag arweinwyr ar draws y maes lletygarwch, gan gynnwys The Seren Collection, The Retreats Group, Celtic Collection, Redefining Dining a Compass Levy Wales, gyda chymorth pen-cogyddion a gweinyddion gwin (Sommeliers) blaenllaw ar draws y DU ac yn fyd-eang.

Dywedodd Kevin fod cefnogaeth y staff yn golygu ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi drwy gydol ei amser yn y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r darlithwyr yn adnabod bwytai am eu bod wedi gweithio ynddyn nhw ac maent hefyd yn gwybod o brofiad pa mor anodd y gall fod. Maen nhw’n gallu fy nghynorthwyo ag unrhyw heriau rydw i wedi’u hwynebu oherwydd yn aml iawn mae ganddynt brofiad uniongyrchol,” ychwanegodd. “Mae wedi bod yn bwysig i mi, gyda’u cymorth nhw, i aros yn bositif a dal ati i ddysgu fel y gallaf barhau i adeiladu fy musnes fy hun.”

Meddai Jemma Smith, Rheolwr Rhaglen: “Mae mynd i fwyty Kevin a gweld beth mae eisoes wedi gallu ei roi ar waith wedi bod mor ysbrydoledig, o gofio’r ffaith nad yw wedi cwblhau ei radd eto. Mae wedi gweithio’n eithriadol o galed i fod yn y sefyllfa y mae ynddi ac mae’n gaffaeliad i’r myfyrwyr eraill oherwydd mae’n gallu eu haddysgu am ei daith a’r hyn sydd ei angen i sefydlu rhywbeth fel hyn. Dylai fod yn eithriadol o falch ohono’i hun. 

“Dim ond hyn a hyn y gall unigolyn ei ddysgu o werslyfrau. Yn fy marn i, oni bai eich bod wedi gweithio yn y maes eich hun, dydych chi ddim yn deall yn union yr hyn sy’n mynd i mewn iddo. Mae’n broffesiwn lle mae angen medrusrwydd. Mae’n cymryd amser, ymdrech, amynedd.  Mae recriwtio darlithwyr sydd â chymhwysedd yn y sector yn rhoi ein myfyrwyr mewn sefyllfa gref lle gallant ddysgu gan unigolion sydd wedi bod yno eu hunain ac sydd â phrofiad bywyd go iawn.” 

Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth: “Kevin oedd yr ymgeisydd cyntaf i gael ei recriwtio ar yr hyn oedd yn 2022 yn rhaglen newydd. Mae wedi profi bod ein dull o ddysgu ochr yn ochr â chaffael sgiliau yn ffurfio sylfaen gref ar gyfer dyfodol lletygarwch ac mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth mewn bwytai ble bynnag y bônt a ph’un a ydynt yn entrepreneuraidd ai peidio. Mae ein tîm darlithio gyda chefnogaeth ein rhwydwaith cyswllt cyflogwyr anhygoel yn eu paratoi i fod yn ddylanwadwyr nesaf y byd lletygarwch ac mae’r proffesiwn mewn dwylo diogel.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau